Prorogation, the State Opening, and refurbishing the Palace of Westminster

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd ‘North Wales Weekly News’ ar y 18fed o Fai 2016.
Yr wythnos ddiwethaf, mewn defod hynafol ym Mhalas San Steffan – gan gynnwys defnydd o Ffrangeg Normanaidd – gohiriwyd sesiwn 2015-16 y Senedd yn ffurfiol. Mi fydd y Senedd yn cael ei hail-agor, gyda tipyn o rwysg a ffurfioldeb, ar ddydd Mercher, mewn defod hynafol arall; un sy’n cynnwys drws yn cael ei gau yn glep yng ngwyneb dyn sy’n gwisgo hosanau hirion, a’r Arglwydd Ganghellor yn cerdded i lawr grisiau tuag yn ôl.
Dyna, ar adegau, yw bywyd yn San Steffan.
Fodd bynnag, ni ddylid meddwl, fel canlyniad i ystyried natur hynafol rhai o weithrediadau y Senedd, na fod y sefydliad wedi addasu i anghenion yr 21ain ganrif. Yn wir, mi fyddai hynny’n achos i ofidio. Mae gweithrediadau Seneddol yn cael eu newid yn gyson. Mae John Bercow, y Llefarydd, wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i foderneiddio Ty’r Cyffredin, a mae gan y Senedd system dechnoleg gwybodaeth a all gystadlu gyda’r gorau.
Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau yma yn digwydd mewn adeilad sydd ag angen mawr am adnewyddiad. Mae’n wir taw Palas San Steffan yw adeilad adfywiad Gothig gorau’r byd, ond mae hefyd yn un sy’n dangos arwyddion amlwg o draul a defnydd. Mae’r meini lliw mêl yn dioddef erydiad difrifol, mewn mannau. Mae’r system ddwr yn sigledig. Mae angen tynnu ac ail-osod cannoedd o filltiroedd o wifrau trydanol. Ac ar ben hynny, mae asbestos yn bresennol – tipyn ohono.
Yn awr, mae’r Senedd wedi penderfynu fod angen adnewyddiad trylwyr ar y Palas. Ni fydd hon yn fenter rhad, yn enwedig wrth ystyried fod y Palas yn Safle Treftadaeth y Byd.
Yn ogystal, mi fydd y gwaith yn achosi tipyn o aflonyddwch yng ngwaith y Senedd. Mae’n ymddangos, erbyn nawr, fod yna gytundeb cyffredinol y bydd yn rhaid i’r Aelodau Seneddol a’r Arglwyddi i adael y Palas am nifer o flynyddoedd tra fydd y gwaith adnewyddu yn cael ei wneud. Mi fydd angen dewis lleoliad cyfarfod a lleoliadau swyddfeydd dros dro. Efallai y bydd angen i Seneddwyr ddod yn gyfarfod â bywyd symudol.
Mae’n debygol y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar y mater yn ystod sesiwn newydd y Senedd, ac efallai cyn gynted â mis Mehefin. Mae’n bosib y bydd y gwaith yn dechrau yn 2020.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.