Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r data personol a brosesir gan swyddfa’r Gwir Anrhydeddus David Jones, Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, o ran ymholiadau am bolisïau a gwaith achos. 

Pwy yw’r Rheolydd Data?

Y Rheolydd Data yw’r Gwir Anrhydeddus David Jones, Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd.

Beth mae’r swyddfa yn ei wneud?

Mae’r swyddfa’n cyflawni dyletswyddau a swyddogaethau Aelod Seneddol etholedig. Fel rhan o’r gwaith hwn rydym yn gwneud gwaith achos ac yn ymateb i ymholiadau am bolisïau, ac mae’n rhaid i ni brosesu data personol ein hetholwyr er mwyn gwneud hynny. 

Sut ydym ni’n prosesu data?

Mae’r swyddfa hon yn prosesu data etholwyr dan y sail gyfreithiol o dasg gyhoeddus. Mewn achosion lle nad yw’r sail gyfreithiol hon yn ddigonol a bod angen caniatâd penodol, bydd aelod o’r swyddfa’n cysylltu â chi i gael eich caniatâd. Mewn achosion prin gallem hefyd brosesu data dan y sail gyfreithiol o fuddiant cyfreithlon dilys.

Yn unrhyw achos, rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y wybodaeth a gesglir ac a ddefnyddir gennym ni yn briodol at y diben hwn, ac nad yw’n cynrychioli tarfu ar breifatrwydd. 

A fyddwn ni’n rhannu eich data personol gydag unrhyw un arall? 

Fe allem ni drosglwyddo eich data personol i drydydd parti yn ystod ymdrin â’ch achos, megis awdurdodau lleol, asiantaethau’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus, ymddiriedolaethau iechyd, rheoleiddwyr ac ati. Mae rhwymedigaeth ar unrhyw dryddyd parti rydym ni’n rhannu eich data gyda nhw i gadw eich manylion yn ddiogel, a’u defnyddio at y diben y’u bwriadwyd yn wreiddiol yn unig. Pan na fydd arnynt angen eich data mwyach i gyflawni hyn byddant yn dileu’r manylion yn unol â’n gweithdrefnau ni. 
Ni fyddwn yn defnyddio eich data personol chi mewn modd sy’n mynd y tu hwnt i’ch disgwyliadau rhesymol wrth gysylltu â ni. 

Am faint fyddwch chi’n cadw fy nata personol i?

Oni bai eich bod chi’n cyflwyno cais penodol, bydd ein swyddfa ni yn cadw eich data personol nes y bydd y Gwir Anrhydeddus David Jones AS yn peidio â bod yn Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd. 
Rydym yn ailedrych ar waith achos ac ymholiadau polisi yn gyson. Felly, mae er budd ein gwaith a’n hetholwyr i gadw data sy’n gysylltiedig â’r swyddogaethau hyn. 

Pa hawliau sydd gen i o ran fy nata personol?

Ar unhyw adeg pan fydd gennym ni eich data yn ein meddiant neu pan fyddwn ni’n ei brosesu, mae gennych chi, gwrthrych y data, yr hawliau a ganlyn: 

  • Yr hawl i weld y data – mae gennych chi’r hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi. 
  • Yr hawl i gywiro’r data – mae gennych chi’r hawl i gywiro’r data sydd gennym ni amdanoch chi os yw’n anghywir neu’n anghyflawn. 
  • Yr hawl i gael eich anghofio – cewch ofyn i’r data sydd gennym ni amdanoch chi gael ei ddileu o’n cofnodion ni. 
  • Yr hawl i gyfyngu ar y prosesu – lle bo amodau penodol yn berthnasol mae gennych chi’r hawl i gyfyngu ar y prosesu data. 
  • Yr hawl i’r data fod yn gludadwy – mae gennych chi’r hawl i ddata sydd gennym ni amdanoch chi gael ei drosglwyddo i sefydliad arall. 
  • Yr hawl i wrthwynebu – mae gennych chi’r hawl i wrthwynebu i fathau penodol o brosesu, megis prosesu ar gyfer marchnata uniongyrchol. 
  • Yr hawl i wrthwynebu i brosesu awtomatig, yn cynnwys proffilio – mae gennych chi’r hawl hefyd i fod yn ddarostyngedig i effeithiau cyfreithol prosesu neu broffilio awtomatig. 

Yr hawl i adolygiad barnwrol – os yw ein swyddfa ni yn gwrthod eich cais dan hawliau i weld gwybodaeth, byddwn yn rhoi rheswm pam. Mae gennych chi’r hawl i gwyno.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.