BEIRNIADAETH DAVID JONES AR Y PENDERFYNIAD I GYFLWYNO TOLLAU PARCIO
San Steffan, y 7fed o Fehefin 2016
Mae David Jones A.S. wedi lleisio ei farn ar benderfyniad a wneuthpwyd gan Bwyllgor Craffu Clwm Cwsmeriaid a Chymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; penderfyniad i argymell cyflwyno tollau parcio ar bromenâd Bae Colwyn. Dywedodd Mr Jones:
“Mae hyn yn newyddion hynod ddrwg i bobl Bae Colwyn a Llandrillo yn Rhos.
“Mae ardal glan y môr Bae Colwyn wedi gwella’n aruthrol dros y blynyddoedd diweddar, fel canlyniad i osod y traeth newydd. Am y tro cyntaf mewn blynyddoedd, mae Bae Colwyn wedi dechrau denu nifer fawr o ymwelwyr.
“Siomedig iawn yw’r ffaith fod y Cyngor wedi penderfynu tanseilio – trwy gyflwyno tollau parcio – y gwaith da a wneuthpwyd ganddynt.
“Ar ben y ffaith y bydd tollau yn achosi i ymwelwyr i gadw draw, mi fyddant hefyd yn gyrru pobl i adael eu ceir ar strydoedd preswyl Llandrillo yn Rhos.
“Roedd Cyngor Tref Bae Colwyn yn hollol gywir i wrthwynebu’r cynllun arfaethedig yma, a mae ganddynt gefnogaeth gref y trigolion lleol.
“Nid yw’n rhy hwyr i’r Cyngor Sirol i benderfynu i beidio cyflwyno’r tollau, ac annogaf hwy – yn gryf – i newid eu meddyliau, hyd yn oed yn awr, cyn hwyred â hyn yn y broses.”