CROESAWU CYLLIDEB 2016
Yr 16eg o Fawrth 2016
Mae David Jones AS wedi croesawu Cyllideb 2016 fel un sy’n rhoi blaenoriaeth i les y genhedlaeth nesaf, trwy:
- Leihau trethi ar weithwyr, er mwyn eu galluogi i gadw mwy o’r cyflog maent yn ei ennill. O fis Ebrill 2017 ymlaen, mi fydd y lwfans di-dreth personol yn cynyddu i £11,500; toriad treth ar gyfer 31 miliwn o bobl, sy’n golygu y bydd y talwr treth incwm sylfaenol nodweddiadol yn talu dros £1,000 yn llai o dreth incwm yn flynyddol ers i’r Ceidwadwyr ddechrau llywodraethu. Yn ogystal, mi fydd y trothwy ar gyfer y dreth incwm uwch yn cynyddu i £45,000; toriad treth o fwy na £400.
- Rewi treth tanwydd, er mwyn cefnogi cyllidau cartrefi a chefnogi busnesau bychain. Mae’r Ceidwadwyr wedi rhewi treth tanwydd am y chweched mlynedd mewn rhes, gan arbed £75 i’r gyrrwr nodweddiadol, a £270 i fusnes fach â fan, bob blwyddyn.
- Gyflwyno cyfrif safion “Lifetime ISA” newydd er mwyn cynorthwyo cynilo ar ran y genhedlaeth nesaf. Mae pobl yn hoff o symlrwydd cyfrifon ISA. O’r herwydd, mi fydd y Llywodraeth yn cynyddu’r lwfans ISA blynyddol i bawb o oddeutu £15,000 i £20,000. Yn ogystal, mi fydd yn cyflwyno cyfrif “Lifetime ISA” newydd i bobl o dan 40 o oed; ni fydd angen i bobl ddewis rhwng cynilo ar gyfer prynu eu cartrefi cyntaf a chynilo ar gyfer ymddeoliad, oherwydd mi fydd y Llywodraeth yn rhoi cymorth ariannol ar gyfer y ddau. Am bob £4 a gynilir, mi fydd y Llywodraeth yn rhoi £1 yn ychwanegol; os fydd person yn cynilo £4,000 yn flynyddol, mi fydd y Llywodraeth yn ychwanegu £1,000 bob blwyddyn, tan i’r person droi yn 50 o oed.
- Leihau trethi ar fusnesau bychain. Ni fydd 600,000 o fusnesau bychain yn talu unrhyw ardrethi – gan arbed hyd at oddeutu £6,000 bob blwyddyn – a mi fydd 250,000 o fusnesau bychain yn talu llai o drethi o’r fath. Yn ogystal, mae’r Llywodraeth wedi lleihau cyfradd treth enillion cyfalaf er mwyn cefnogi menter, ac wedi lleihau cyfradd treth corfforaeth er mwyn hybu cyflogaeth.
Sylwadodd David Jones:
“Mae economi Prydain yn gryf, yn wydn ac yn tyfu oherwydd y camau a gymerwyd gan y Ceidwadwyr dros y chwe mlynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, mae yna beryglon; mae’r marchnadoedd ariannnol yn newidiol, mae twf cynhyrchedd yn rhy isel, a mae rhagolwg economaidd y byd yn wan.
“Dyna pam fod y Llywodraeth Ceidwadol yn cymeryd y camau sy’n angenrheidiol i sicrhau fod Prydain yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae hynny’n golygu sicrhau sefyllfa gyllidol gadarn, gan gynorthwyo cynilwyr, lleihau trethi ar fusnesau a’r rhai sy’n gweithio’n galed, a chyflwyno prosiectau isadeiledd mawr. Yn ogystal, mae Cytundeb Twf Gogledd Cymru yn cynnig cyfle i gysylltu ein economi lleol i’r “Northern Powerhouse”.
“Mae’r Gyllideb yn dewis cyflwyno atebion hir-dymor i broblemau hir-dymor. Mae’n rhoi blaenoriaeth i les y genhedlaeth nesaf, ac yn atgyfnerthu eich ymdrechion i sicrhau fod Prydain yn addas ar gyfer y dyfodol.”