World Autism Awareness Week

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd ‘North Wales Weekly News’ ar y 4ydd o Fai 2016. 
Cynhaliwyd dadl yn Nhy’r Cyffredin yn ddiweddar i gofnodi Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth.
Mae awtistiaeth yn anabledd datblygiadol gydol-oes sy’n effeithio’r ffordd y mae pobl yn cyfathrebu a rhyngweithio gydag eraill. Mae’n anhwylder spectrwm, sy’n golygu fod rhai sy’n dioddef ohono yn medru gweithredu ar lefel uchel, tra fod eraill yn dioddef anabledd difrifol. Mae chwarter ohonynt yn dioddef diffyg lleferydd, a nid yw 85% ohonynt mewn gwaith amser llawn.
Nid adnabyddwyd awtistiaeth yn ffurfiol tan y 1940au, a mae ein deallusrwydd o’r cyflwr wedi datblygu yn araf ers hynny. Ym 1970, barnodd astudiaeth Americanaidd fod un plentyn mewn 14,000 yn awtistig. Fodd bynnag, mae astudiaethau mwy diweddar wedi awgrymu fod un plentyn mewn 68 yn dioddef gyda rhyw fath o awtistiaeth.
Amcangyfrifir fod mwy na 600,000 o bobl, neu oddeutu 1% o’r boblogaeth, yn dioddef gyda awtistiaeth. Mae hyn yn cario cost economaidd, yn ogystal â chost dynol. Amcangyfrifodd astudiaeth gan goleg y ‘London School of Economics’ ym 2014 fod awtistiaeth yn costio £32.1 biliwn i’r economi Brydeinig yn flynyddol.
Er lles cyd-destun ystadegol, dylid nodi fod cancr yn costio oddeutu £12 biliwn y flwyddyn; fod clefyd y galon yn costio £8 biliwn; a fod strôc yn costio £5 biliwn. Gellir gweld, felly, fod cost awtistiaeth yn uchel, yn wir.
Fodd bynnag, pe tasem yn medru datblygu mwy o ymwybyddiaeth a deallusrwydd o’r cyflwr, gallem ddod i ddeall fod pobl awtistig yn cynrychioli adnodd na sy’n cael defnydd llawn. Mi fyddai o fudd mawr i’r economi genedlaethol, ac i bobl gydag awtistiaeth, pe gellir gwneud mwy i’w cynorthwyo i gael gwaith.
Dangosir astudiaethau y gall pobl awtistaidd fod yn weithwyr gwych. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddai rhaid i gyflogwyr addasu’r amgylchedd gwaith er mwyn galluogi pobl ag awtistiaeth i weithio’n effeithiol. Er enghraifft, mae pobl awtistaidd yn aml yn cael budd o amodau gweithio tawel; mae sain teleffon neu siarad yn medru amharu’n ddifrifol ar eu gallu i ganolbwyntio.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth yn darparu cyfle blynyddol i ni oll i geisio datblygu deallusrwydd gwell o gyflwr sy’n debygol iawn o effeithio ar ein teuluoedd a ffrindiau, yn aml heb ymwybyddiaeth.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.