Victoria Pier

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd “North Wales Weekly News” ar y 13eg o Ionawr 2016.
Mae’r flwyddyn newydd wedi cyrraedd, yng nghwmni y tymhestloedd sy’n ymddangos i fod yn nodwedd o bob gaeaf erbyn nawr. Tra’n gyrru ar hyd talcen môr Bae Colwyn, hanner disgwylais weld gofod lle fu Pier Victoria unwaith yn sefyll. Fodd bynnag, roedd y pier yno o hyd; ei golofnau rhydlyd a’i uwch-adeiledd adfeiliedig yn gwrthsefyll gwaethaf y gwynt a’r glaw.
Mae helbul y pier wedi parhau cyn hired ag y gall mwyafrif o bobl yr ardal gofio. Prynwyd y pier gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy am £36,000 yn 2012. Ar y pryd, roedd y Cyngor yn awyddus i adnewyddu’r pier, a gwnaeth gais am arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) at y pwrpas. Fodd bynnag, ymddangosir fod blynyddoedd o gyfreithio yn erbyn cyn-berchennog y pier wedi diffoddi brwdfrydedd y Cyngor tuag at y fenter; mae’r Cyngor yn awr wedi perderfynu dymchwel y pier, ac wedi gwneud cais am ganiatâd dymchwel oddi wrth CADW. Fodd bynnag, gwrthodwyd y cais, a mae’r Cyngor yn awr yn paratoi ail gais o’r fath. Yn y cyfamser, mae’r pier yn hagru talcen môr sydd, gyda eithriad amlwg y pier, wedi gwella’n fawr.
Mae’n amlwg fod tipyn o awydd am adnewyddu’r pier o fewn y dref. Mae Ymddiriedolaeth Pier Victoria yn awyddus i wneud cais pellach am arian oddi wrth y Gronfa, gyda chefnogaeth Cyngor Trefol Bae Colwyn. Fodd bynnag, gwrthodwyd cais a wnaethpwyd llynedd, oherwydd, ym marn y Gronfa, nid oedd digon o arwydd o gefnogaeth gref ar ran Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy.
Yn bresennol, felly, mae’r Cyngor Trefol am adnewyddu’r pier, tra fod y Cyngor Sirol am ei ddymchwel. Mae’n debygol y bydd cost y gwaith dymchwel – sy’n debygol o fod yn fwy na £1 miliwn – yn cwympo ar ysgwyddau’r trethdalwyr lleol, sy’n barod yn ofni’r ddyleb treth cyngor nesaf. Blerwch, yn wir.
Os gellir ffurfio cynllun masnachol addas, mae’n siwr y byddai’n synhwyrol i’r ddau gyngor i gyd-weithio er mwyn gwneud un cais olaf am arian oddi wrth y Gronfa. Mae siawns y byddai cais unedig yn llwyddiannus, gan greu pier adnewyddiedig a fyddai’n addurn i fae prydferth Colwyn.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.