The legal weakness of David Cameron's EU deal

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd “City AM” ar yr 16eg o Chwefror 2016.
Mae llawer wedi cael ei ysgrifennu am sylwedd yr ail-drafodaeth ar fater aelodaeth y Deyrnas Unedig (DU) o’r Undeb Ewropeaidd (UE) a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y Prif Weinidog. A fydd y “brêc argyfwng” ar fudd-daliadau yn cael unrhyw effaith ar fewnfudiad? A fydd y drefn “carden goch” newydd yn dychwelyd pwerau sylweddol i’r Senedd Brydeinig?
Fodd bynnag, wrth i ni i drafod y materion yma, ni ddylid colli golwg o gwestiwn mwy sylfaenol: pa statws cyfreithiol fydd gan yr ail-drafodaeth?
Pan esboniodd David Cameron ei gynlluniau, yn ystod ei “araith Bloomberg” dair mlynedd yn ôl, ar gyfer ail-drafodaeth gyda refferendwm i ddilyn, dywedodd taw cyflwyno Cytundeb UE newydd fyddai’r modd gorau o roi effaith i unrhyw newidiadau. Addawodd wenidogion llywodraethol y byddent yn sicrhau hynny cyn cynnal refferendwm, ond maent wedi methu.
Mae hyn o bwys, oherwydd ni fydd newidiadau na sydd o fewn Cytundeb newydd werth y papur y defnyddir i’w cofnodi. Mae’r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd (LCE) wedi dweud yn glir taw dim ond Cytundeb UE newydd all newid y Cytundebau presennol. Mi fyddai angen i bob aelod o’r UE gadarnhau Cytundeb o’r fath, yn unol â’u cyfansoddiadau. Mi fyddai rhaid i rai ohonynt gynnal refferendymau. O’r herwydd, ni fyddem yn medru cael gwybod canlyniad terfynol y broses tan fod nifer o flynyddoedd wedi mynd heibio.
Mae’r Llywodraeth yn dadlau y gall addewid i newid y Cytundebau UE ar ôl refferendwm gario grym cyfreithiol, ond nid yw hynny’n wir. Mae cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, Jean-Claude Piris, wedi galw’r syniad o addewid o’r fath yn “gachu tarw”. Mae Sir Konrad Schiemann, cyn-farnwr Prydeinig yn yr LCE, yn cytuno.
Yn awr, mae’r Llywodraeth yn dibynnu ar ddull a ddefnyddiwyd i gadw Denmark fel aelod o’r UE ym 1992, yn dilyn gwrthodiad Cytundeb Maastricht gan etholwyr y wlad. Mae’r Prif Weinidog yn dadlau fod Denmark wedi sicrhau gollyngiadau cyfreithiol tebyg, a’u bod yn dal i sefyll, gyda grym cyfreithiol, 23 mlynedd yn hwyrach. Yn anffodus, fodd bynnag, mae’r Prif Weinidog yn anghywir.
Torrwyd addewidion a roddwyd i Denmark ym 1992. Addawodd arweinwyr yr UE na fyddai dinesyddiaeth UE yn cymeryd lle dinesyddiaeth cenedlaethol. Llai na degawd yn hwyrach, datganodd yr LCE taw dinesyddiaeth UE fyddai statws sylfaenol trigolion gwledydd yr UE. Mae’r datganiad yna wedi cael ei ail-adrodd 80 gwaith, yn fwyaf diweddar mewn achos a oedd yn gysylltiedig ag ymdrechion y Llywodraeth i alltudio merch-yng-nghyfraith Abu Hamza.
Addwyd hefyd i Denmark y byddai’r wlad yn parhau i reoli telerau ei dinesyddiaeth. Fodd bynnag, mae’r LCE wedi datgan fod ganddo’r pwer i benderfynu o dan ba amodau y gall unigolyn golli dinesyddiaeth gwlad Denmark. Llynedd, datganodd ein Goruchaf Lys fod penderfyniadau’r LCE yn hollol groes i’r addewidion a roddwyd i Denmark ym 1992.
Dadl nesaf y Llywodraeth yw fod y cytundeb yn cario grym mewn cyfraith rhyngwladol. Mae hyn yn gamarweiniol. Mae’r cytundeb drafft yn datgan ei fod yn “gydymffurfiol” â’r Cytundebau UE. Fel canlyniad, o dan Gonfensiwn Vienna 1969, mi fydd y Cytundebau UE â statws uwch na’r cytundeb, mewn cyfraith rhyngwladol.
Yn olaf, mae’r Llywodraeth yn addo y bydd y cytundeb yn cael ei gofrestri gyda’r Cenhedloedd Unedig (CU). Cyflwynwyd cofrestri o’r fath gyda’r bwriad o osgoi cytundebau cyfrinachol, sydd wedi achosi nifer o ryfeloedd dros yr oesoedd. Mae’r CU wedi datgan na fod cofrestri cytundeb yn effeithio ei statws cyfreithiol , ac y byddai yn derbyn unrhyw ddogfen y rhoddir iddo gan y Llywodraeth Prydeinig. Cofrestrwyd y cytundeb a luniwyd yn achos Denmark gyda’r CU, ond nid oedd hynny’n ddigon i atal yr LCE rhag datgan yn groes iddo.
Yn ychwanegol, mae’r LCE wedi datgan y byddai’n anwybyddu cyfraith rhyngwladol petai’n groes i’r Cytundebau UE. Datganodd, yn 2008, na allai rhwymedigaethau dan gyfraith rhyngwladol danselio egwyddorion cyfansoddiadol y Cytundebau UE. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol, oherwydd yn yr achos hynny, roedd yr LCE yn gwrthod rhoi effaith i benderfyniadau Cyngor Diogelwch y CU; penderfyniadau sy’n cario mwy o rym cyfreithiol nag unrhyw beth arall, mewn cyfraith rhyngwladol.
Ar y gorau, mi gaiff y Llywodraeth gytundeb gwleidyddol, nid un cyfreithiol, oddi wrth yr UE. Fel y dywedodd llywydd Cyngor yr UE, Donald Tusk, ym mis Rhagfyr, mi gaiff y DU ddatganiad gwleidyddol, gan ei fod yn amhosib i newid unrhyw Gytundeb UE cyn y refferendwm. Dylid nodi fod yr LCE wedi datgan, yn y gorffennol, na fod gan ddatganiad gwleidyddol o’r fath unrhyw rym cyfreithiol.
Beth yw arwyddocâd hyn? Gall unrhyw berson sy’n dadlau fod yr ail-drafodaeth wedi amharu ar ei hawliau ddwyn achos yn erbyn y cytundeb yn y llysoedd, gan ofyn i’r LCE ei ddiddymu. Ni wnaiff barnwyr yr LCE gefnogi’r cytundeb yn gyfreithiol. Pan ddaw’r amser i’r cyhoedd i bleidleisio yn y refferendwm, dylent fod yn ymwybodol fod addewidion yr UE braidd yn debyg i gytundeb sydd heb ei arwyddo.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.