The EU membership referendum

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd “Rhyl, Prestatyn and Abergele Journal” ar y 13eg o Ionawr 2016.
Mae 2016 wedi dechrau yn wlyb a gwyntog. Fodd bynnag, hoffwn gymeryd y cyfle yma i ddymuno blwyddyn newydd dda i ddarllenwyr y “Journal”.
Mi fydd nifer o ddigwyddiadau gwleidyddol pwysig eleni, ond mae’n debygol taw’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd fydd y pwysicaf ohonynt. Mae’r Prif Weinidog wedi addo y bydd y refferendwm yn digwydd cyn diwedd 2017. Fodd bynnag, wrth ystyried y datblygiad yn y trafodaethau gyda chyd-aelodau yr UE, mae’n debygol y bydd yn digwydd erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Mae ein aelodaeth o’r UE yn fater sydd wedi achosi tipyn o anghydfod dros y blynyddoedd. Mae’n fater ymrysonus; un sy’n bodoli tu hwnt i wleidyddiaeth pleidiol. O fy safbwynt i, credaf yn gryf y byddai’n well i Brydain i fodoli tu allan yr UE, a bwriadaf i ymgyrchu dros adael. Fodd bynnag, deallaf, hefyd, fod dadlau parchus o blaid aros i fewn. Mae’n bwysig i sicrhau fod y ddadl ar y mater yn synhwyrol ac yn gymedrol, er mwyn galluogi’r boblogaeth i bleidleisio gan deimlo eu bod wedi cael gwybodaeth llawn am fanteision ac anfanteision y ddau ddewis.
Oherwydd fod barn ar fater aelodaeth o’r UE yn amrywio o fewn y mwyafrif o bleidiau gwleidyddol, mae’n debygol iawn y bydd yr ymgyrchoedd ar ddwy ochr y ddadl yn fenterau rhyng-bleidiol, gyda phobl sydd fel rheol yn anghytuno dros wleidyddiaeth yn uno er mwyn ymgyrchu dros yr hyn y credant sydd orau i Brydain.
O dan fath amgylchiadau, roedd y Prif Weinidog yn hollol gywir i ddatgan y byddai Gweinidogion yn rhydd, unwaith y bydd y trafodaethau gyda’r cyd-aelodau wedi gorffen, i ymgyrchu ar ddwy ochr y ddadl. Wrth ddatgan hynny, roedd y Prif Weinidog yn deall pwysigrwydd arbennig y refferendwm, ac yn deall fod y mater yn un sydd uwchlaw gwleidyddiaeth pleidiol.
Mae’n siwr fod barn ar fater yr UE yn amrywio ymysg darllenwyr y “Journal”. Fodd bynnag, beth bynnag ein barn unigol, gallwn – a dylwn – gytuno y dylai’r ddadl fod yn un angerddol, ac eto yn waraidd; yna, unwaith y bydd canlyniad y refferendwm wedi cael ei ddatgan, gallwn uno a chyd-weithio er lles ein gwlad.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.