The decline in African lion numbers

Un o bleserau bywyd Aelod Seneddol yw’r gallu – o bryd i bryd – i gefnogi achosion sy’n dra wahanol i’r materion etholaethol sy’n tueddi i ffurfio a llenwi gwaith dydd-i-ddydd.
Un achos o’r fath yw dirywiad poblogaeth llewod Affrica; mater sydd wedi bod o bryder i mi ers nifer o flynyddoedd. Pum deg mlynedd yn ôl, roedd oddeutu 200,000 o lewod ar y cyfandir. Fodd bynnag, amcangyfrir gan rai fod llai na 15,000 o lewod yno erbyn nawr, a mae rhai is-rywiogaethau, megis Llew Gorllewin Affrica, bron yn ddiflanedig.
Mae nifer o resymau am y dirywiad yn niferoedd y llew. Fodd bynnag, mae’r mwyafrif ohonynt yn ganlyniad i weithgareddau dynol. Mae cyflwyno amaethyddiaeth i gynefin traddodiadol y llew yn reswm pwysig, ond mae hela troffi hefyd yn ddylanwad negyddol.
Mi dderbyniodd marwolaeth aflan Cecil – llew enwocaf Affrica, o bosib – dipyn o sylw ychydig fisoedd yn ôl. Roedd Cecil yn lew aeddfed, un a gafodd ei astudio gan ymchwilwyr o Brifysgol Rhydychen am 16 o flynyddoedd. Denwyd Cecil allan o’r warchodfa natur lle bu’n byw, a saethwyd ef gyda bwa a saeth. Yna, cafodd ei ddilyn am 40 awr, cyn cael ei ladd gan ddeintydd o dalaeth Minnesota, a oedd yn cario reiffl. Tynnwyd croen Cecil ymaeth, a torrwyd ei ben o’i gorff, fel troffi. Roedd hi’n ddiwedd hyll i fywyd creadur mor brydferth a nobl.
Er mwyn tynnu sylw at y mater, mi drefnais ddadl yn Neuadd San Steffan, gyda’r pwrpas o alw am waharddiad ar fewnforio troffiaid hela llewod i Brydain. Pe na allai helwyr llewod – sy’n cynnwys nifer o Brydeinwyr sy’n talu hyd at $50,000 i saethu llew – ddod a^ throffiau yn ôl i’r wlad, mi fyddent yn lai tebygol o gymeryd rhan mewn fasiwn “chwarae”.
Roeddwn yn hapus iawn fod Rory Stewart, y Gweinidog Gwladol, yn cytuno gyda fy safbwynt. Gwaharddir mewnforio troffiau llewod o rai o wledydd Affrica yn barod. Fodd bynnag, wrth ateb y ddadl, datganodd y Gweinidog y byddai’r gwaharddiad yn cael ei estyn i wledydd eraill, os na fydd gwelliant nodedig i’r rheolau sy’n rheoli hela llewod. Croesawyd y datganiad yn fawr gan LionAid, yr elusen a fu’n cyd-weithio gyda finnau ar y ddadl.
Credaf fod trefnu’r ddadl yn cynrychioli dydd da o waith, a gobeithiaf y bydd yn gwneud cyfraniad, er o bosib un bychan, i wella siawns llewod Affrica o osgoi diflannu yn llwyr.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.