Merseyside, Deeside and North Wales

Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd  “North Wales Weekly News” ar y 27ain o Ionawr 2016.
Mae oddeutu 16 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers sefydliad y Cynulliad Cymreig, fel rhan o raglen o ddiwygio cyfansoddiadol llywodraeth Tony Blair.
Credwyd, yn wreiddiol, y byddai datganoli yn dod â llywodraethu yn agosach at y cyhoedd. Mewn rhai ffyrdd, mae hynny wedi digwydd, er fod Caerdydd, o’n safbwynt ni fel Gogleddwyr, yn aml yn ymddangos yn bellach na Llundain (sy’n hollol wir, o ran amser teithio).
Mi all anhyblygrwydd datganoli achosi problemau, o dan rai amgylchiadau. Er enghraifft, mae datblygiad economaidd yng Nghymru yn fater i’r Llywodraeth Cymreig, ond yn Lloegr, mae’n fater i’r Llywodraeth Prydeinig yn San Steffan. Os nad yw’n cael ei drin gyda digon o ofal, mi all gwahaniaeth mewn cyfrifoldebau o’r fath arwain at ganlyniadau anffodus.
Gellir ystyried achos Glannau Dyfrdwy; ardal sy’n cynnwys rhai o ddiwydiannau bywiocaf Prydain. Mae’r ardal yn un sy’n bwysig i’n rhan ni o Ogledd Cymru. Mae cannoedd, os nad miloedd, o bobl leol yn cymudo yno bob diwrnod i weithio i fenterau byd-enwog megis Airbus, Toyota a Vauxhall.
Mae Gogledd Cymru gyfan yn cael budd o ffyniant Glannau Dyfrdwy; mae’r effaith yn teithio ar hyd yr arfordir yr holl ffordd i Gaergybi. Os yw Glannau Dyfrdwy yn llwyddiannus, mae’r rhanbarth cyfan yn llwyddiannus, hefyd.
Mae Glannau Dyfrdwy yn gorwedd – yn llythrennol – ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. O’r herwydd, mae’n bwysig fod polisiau economaidd ar ddwy ochr y ffin yn cyfateb, er mwyn osgoi amharu ar botensial yr ardal. Gyda hynny mewn golwg, mae grwp newydd croes-bleidiol o Aelodau Seneddol wedi cael ei ffurfio. Mi fydd y grwp, sy’n cynnwys Aelodau o Ogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, yn cyd-weithio’n agos gyda llywodraethau San Steffan a Chaerdydd, gyda’r bwriad o sicrhau na fod polisiau’r ddau yn gwrthdaro, a’u bod, os bosib, yn gyfatebol.
Rwy’n falch i fod yn Is-Gadeirydd y grwp, a rwy’n obeithiol y bydd ei waith yn helpu i hybu ffyniant economaidd yng Ngogledd Cymru gyfan.
 

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.