Charities and their trustees' responsibilities

Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd “Rhyl, Prestatyn and Abergele Journal” ar y 10fed o Chwefror 2016.
Mae elusenau yn chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd y genedl. Maent yn galluogi unigolion i uno er mwyn cefnogi achosion sy’n bwysig iddynt, a sy’n darparu budd cyhoeddus dirfawr. Maent yn atgyfnerthu gwaith gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir gan y llywodraeth. Mae ganddynt rôl bwysig ac unigryw i’w chwarae o fewn ein cymdeithas.
Weithiau, fodd bynnag, mae elusenau yn dioddef trafferthion. Yn ddiweddar, mae Pwyllgor Ty’r Cyffredin ar Weinyddiaeth Cyhoeddus – sy’n cynnwys finnau fel aelod – wedi cynnal ymholiadau ar fater dulliau codi arian rhai elusenau cenedlaethol, a hefyd ar fater methiant Kids Company, a gauodd haf diwethaf, ar ôl iddo dderbyn dros £42 miliwn o arian grant oddi wrth llywodraethau olynol.
Ymddiriedolwyr elusenol sydd â’r prif gyfrifoldeb am ymddygiad elusenau. Mae swyddi ymddiriedolwyr yn rai pwysig, a hefyd yn ddi-dâl. Fel arfer, llenwir hwy gan unigolion diffuant ac ymroddgar; rhai sydd â diddordeb ym mhwrpas a bwriad eu helusenau, a sy’n cael eu hysgogi gan ddyletswydd cyhoeddus.
Fodd bynnag, maent hefyd yn swyddi sy’n gofyn am lawer o gyfrifoldeb ar ran yr unigolion sy’n eu llenwi. Mae’n hanfodol for ymddiriedolwyr yn deall fod ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol am ymddygiad eu helusen, ag y gallent wynebu canlyniadau cyfreithiol petai rhywbeth yn mynd o’i le.
Yn achos elusen Kids Company, mynegodd y Pwyllgor bryder, yn ei adroddiad, fod ymddiriedolwyr wedi anwybyddu rhybuddion clir oddi wrth yr archwilwyr ynglyn â sefyllfa ariannol fregus yr elusen. Yn ogystal, roedd y Pwyllgor o’r farn na fod aelodau bwrdd ymddiriedolwyr yr elusen â’r profiad priodol o wasanaethau ieuenctid a seicotherapi a fyddai wedi bod yn angenrheidiol i’w galluogi i gwestiynu penderfyniadau y Prif Weithredwr.
Mae cannoedd o elusenau bach a chanolig yng Ngogledd Cymru, a mae gan bob un ohonynt fwrdd ymddiriedolwyr. Mae neges dau adroddiad diweddar y Pwyllgor yn glir: ni ddylid cymeryd swydd fel ymddiriedolwr elusenol heb sicrwydd fod y medrusrwydd priodol ganddoch, ynghyd â digon o amser i’w ymroddi i’r swydd.
Gall swydd fel ymddiriedolwr elusenol fod yn un boddhaol iawn, a mae ymddiriedolwyr o’r fath yn gwneud gwaith hynod werthfawr. Fodd bynnag, nid yw’n swydd sy’n addas i amatur â bwriadau da; mae’n cario cyfrifoldeb cyfreithiol difrifol, a mi ddylid pawb sy’n cymeryd swydd o’r fath fod yn ymwybodol o’r dyletswyddau sy’n ran annatod ohono.
 

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.