The result of the referendum on the United Kingdom's membership of the European Union | June 2016

Yn sgîl canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, rwyf wedi derbyn nifer o e-bostiau oddi wrth unigolion yn galw am ail refferendwm, a / neu yn galw i’r Senedd i ddiddymu’r canlyniad, neu, trwy rhyw fodd arall, i atal y wlad rhag gadael yr UE.
Roedd y refferendwm ar ein haelodaeth o’r UE yn ddigwyddiad mawr; y digwyddiad democrataidd mwyaf o’i fath a gynhaliwyd yn y wlad hon. Pleidleisiodd dros 33.5 miliwn o bobl, gyda’r cyfranogiad uchaf mewn etholiad cenedlaethol – 72.2% – ers Etholiad Cyffredinol 1992. Pleidleisiodd dros 17.4 miliwn o bobl, yn cynrychioli 51.9% o’r pleidleisiau, o blaid gadael yr UE; mantais o 1,269,501 o blaid yr ymgyrch i adael yr UE.
Yn gryno, cynhyrchodd y refferendwm fwyafrif clir o blaid gadael yr UE. Yn ogystal, rwyf wedi bod ynghlwm â gwleidyddiaeth ac etholiadau cenedlaethol am fwy na 40 o flynyddoedd, a gallaf ddweud – yn go hyderus – taw’r ymgyrch a gynhaliwyd cyn y refferendwm oedd yr un helaethaf (dros 3 mis) a thrylwyraf yr wyf wedi ei brofi. Yn wir, mae’n debygol taw’r ymgyrch yma oedd yr ymgyrch etholiadol trylwyraf a gynhaliwyd yn y wlad hon erioed. Fel canlyniad, yn ogystal â’r ffaith fod mwyafrif amlwg wedi pleidleisio o blaid gadael yr UE, gellir dweud fod y penderfyniad democrataidd y mae’r canlyniad yn ei gynrychioli wedi cael ei wneud yn sgîl cyfle gwych i ddarllen a chlywed y dadleuon a leisiwyd gan y ddwy ochr yn yr ymgyrch, a gyda gwybodaeth lawn am bwysicrwydd y penderfyniad. Mewn geiriau eraill, roedd y penderfyniad yn un a wnaethpwyd yn wybodus, a gyda meddylfryd difrifol.
Wrth gwrs, deallaf yn iawn fod nifer sylweddol o bobl yn anhapus gyda chanlyniad y refferendwm. Fodd bynnag, dyna yw natur democratiaeth. Mae pob etholiad mawr yn golygu siomedigaeth i rai. Fodd bynnag, mae etholiadau o’r fath hefyd yn golygu bodlonrwydd, ac yn wir hapusrwydd mawr, ar gyfer nifer. Gan fod y refferendwm ar aelodaeth o’r UE yn fater o ddewis rhwng dau ddewis, yn hytrach na dewis rhwng nifer o ymgeiswyr a / neu o bleidiau gwleidyddol, gellir dweud, gyda sicrwydd hollol, fod mwy o bobl – mwyafrif sylweddol – yn fodlon gyda chanlyniad y refferendwm na sy’n siomedig gydag ef.
O’r herwydd, ni chredaf fod rheswm rhesymegol a rhesymol i gynnal ail refferendwm ar y mater, a ni chredaf y dylai’r Senedd geisio atal y gwaith o roi effaith i ganlyniad y refferendwm. Yn wir, credaf y byddai cais o’r fath yn hollol annemocrataidd. Byddai hefyd, yn fy marn i, yn fradychiad; bradychiad, nid yn unig o’r mwyafrif a bleidleisiodd o blaid gadael yr UE, ond hefyd o’r egwyddorion democrataidd sylfaenol sy’n cynnal bodolaeth a hyder poblogaidd y Senedd. Rwyf am geisio sicrhau fod yr egwyddorion yma yn cael eu parchu, a fod y wlad yn gwneud y trefniadau sy’n angenrheidiol i adael yr UE, ac i sefydlu ei hun fel cenedl rydd, annibynnol, balch, a chyfoethog.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.