The renewal of the Trident nuclear weapon system | July 2016

Rwyf wedi derbyn nifer o e-bostiau oddi wrth etholaethwyr ar fater bwriad y Llywodraeth i gyflwyno cenhedlaeth newydd o arfau niwclear, ynghyd ag offer cysylltiedig, i gymeryd lle y system Trident bresennol.
Mae datblygiad a meddiant arfau niwclear wedi bod yn fater dadleuol ers tipyn o amser. Fodd bynnag, ers yr Ail Ryfel Byd, mae pob llywodraeth Prydeinig wedi bod o’r farn fod meddiannu arfau o’r fath yn rywbeth sydd o fudd i’r wlad hon. Tra’n ffurfio’r barn yma, mae llywodraethau wedi bod yn arbennig o ymwybodol o’r ffaith fod meddiant o’r fath yn darparu y gallu i atal ymosodwr dichonadwy – yn enwedig un sy’n meddiannu arfau niwclear – rhag ymosod ar y wlad hon, yn bennaf fel canlyniad i’r ffaith y byddai ymosodwr o’r fath yn wynebu ymosodiad dialgar hynod ddifrifol.
Credaf fod y rhesymeg yma yn parhau i fod yn addas yn yr oes bresennol. Wedi’r cyfan, mae nifer o wledydd yn meddiannu arfau niwclear, a mae’n bosib y bydd gwledydd ychwanegol yn eu meddiannu yn y dyfodol. Ni ellir galw pob un o’r gwledydd yma yn gyfeillgar a dibynadwy, a ni ellir osgoi y ffaith y gallai agwedd ac ymddygiad un neu fwy o’r gwledydd yma droi yn fwy gelyniaethus, ac yn fwy ansefydlog, yn y dyfodol. O’r herwydd, credaf fod gallu system arfau niwclear effeithiol a gweithredol i atal ymosodiad yn un hynod werthfawr. Credaf hefyd y gallai fod hyd yn oed yn fwy gwerthfawr yn y dyfodol. Credaf, yn benodol, fod angen i’r wlad hon i feddiannu y gallu i gadw llongau tanfor, gyda thaflegrau balistig niwclear, allan ar y môr yn barhaol. Fel canlyniad, rwyf yn cefnogi bwriad y Llywodraeth i gyflwyno olynydd i’r system arfau niwclear Trident, a bwriadaf i bleidleisio yn unol â’r bwriad a’r safiad yma.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.