Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd ‘North Wales Weekly News’ ar yr 20fed o Ebrill 2016.
Roeddwn yn bles iawn i fedru cynnal derbyniad yn Nhy’r Cyffredin ar gyfer ‘Virgin Trains’ yn ddiweddar. Mynychwyd y derbyniad gan nifer o Aelodau Seneddol o wahanol ardaloedd, gan gynnwys Gogledd Cymru.
Mae teithio ar y rheilffyrdd yn adfywio’n nerthol ar y foment. Yn 2014-15, cwblhawyd 1.654 biliwn o deithiau teithwyr ar reilffyrdd Prydain Fawr – y rhif uchaf sydd ar gofnod. Mae gwasanaeth arfordir gorllewinol Virgin yn rhan bwysig o’r adfywiad; oes newydd y tren.
Mae gan y Llywodraeth gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y rheilffyrdd. Mae’r Mesur (a fydd yn Ddeddf) sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer y cynllun ‘High Speed 2’ (HS2) wedi cwblhau ei daith trwy Dy’r Cyffredin, a mae ystyriaeth yn cael ei roi i’r cynllun ‘HS3’; llinell a fyddai’n cysylltu dinasoedd mawrion Gogledd Lloegr.
Wrth gwrs, mae cysylltiadau rheilffordd yn bwysig iawn i ninnau yma yng Ngogledd Cymru. Mae’r llinell rhwng Crewe a Chaergybi yn cael defnydd trwm, and mae hefyd yn amlwg fod ansawdd y llinell yn is na’r brif linell rhwng Llundain a Glasgow. Rwy’n teithio ar hyd y llinell bob wythnos, a rwy’n ymwybodol fod 60 milltir olaf y daith rhwng San Steffan a Bae Colwyn dipyn yn arafach na’r rhan gyntaf. O’r herwydd, mae gwella’r llinell yn hanfodol, er mwyn sicrhau na fydd Gogledd Cymru yn ymdroi yn sgîl gweddill y wlad.
Gyda hynny mewn golwg, rwyf wedi trefnu cyfarfod rhyngddof innau a dirprwyaeth o arweinwyr busnes a llywodraeth lleol ar un ochr, a Changhellor y Trysorlys ar yr ochr arall, i drafod y mater. Mae’n hanfodol, pan fydd y ganolfan HS2 yn Crewe yn cael ei chynllunio, y bydd paratoadau ar gyfer cysylltiad rheilffordd drydan o Crewe i Gaergybi yn cael eu gwneud. Mi fydd y cyfarfod, sy’n debygol o bara awr gyfan, yn galluogi’r Canghellor i glywed – yn uniongyrchol – blaenoriaethau trigolion Gogledd Cymru ar fater yr ased bwysig yma.
Nid yw pob person a fydd yn mynychu’r cyfarfod yn cynrychioli plaid wleidyddol, a mae’r rheini sydd yn cynrychioli pleidiau yn dod o bob plaid. Mae’r mater yma yn un sy’n uno pobl o bob ‘lliw’ gwleidyddol, ac os ydym am weld cynnydd, mae’n hanfodol ein bod yn ymroi ein hunain i’r fenter mewn ffordd sy’n adlewyrchu meddylfryd un tîm unedig.