MP WELCOMES SIOP PWLLGLAS TO 'RURAL OSCARS' IN WESTMINSTER

Posted on 28th Ebrill, 2016

CROESAWU GWIRFODDOLWYR SIOP PWLLGLAS I SAN STEFFAN

Yr 28ain o Ebrill 2016

Mae David Jones A.S. wedi croesawu gwirfoddolwyr o Siop Pwllglas i wobrau’r ‘Countryside Alliance’ ym mhalas San Steffan; gwobrau a elwir yr ‘Oscars gwledig.

Ennillodd Siop Pwllglas wobr ‘siop pentref orau Cymru’ yn gynharach eleni, a mynychodd y tîm, gan gynnwys Sharon Newell, Anne Windebank, Jenny Stewart Fox a Rhona Soloman, dderbyniad yn Nhy’r Argwlyddi i ddathlu llwyddiant y rheini a gyrhaeddodd y gradd terfynol yn nosbarthau unigol y gwobrau.

Dywedodd David Jones:

“Roeddwn yn bles iawn i gyfarfod tîm Siop Pwllglas, a’u llongyfarch am ennill gwobr ‘siop pentref orau Cymru’.

“Mae Siop Pwllglas yn dathlu ei thrydedd mlynedd mewn busnes eleni, a mae wedi datblygu i fod yn ased werthfawr i’r gymuned leol.

“Roedd yn bleser i’w gweld, ac edrychaf ymlaen – mewn gobaith – i’w gweld yma eto y flwyddyn nesaf!”

Dywedodd Rachel Evans, Cyfarwyddwraig Cymru dros y Countryside Alliance:

“Rhoddir y wobr hon i fenter cymunedol sydd wedi cael ei hail-lansio fel siop pentref ar ôl 20 mlynedd heb wasanaeth o’r fath. Mae meddylfryd mentrus tîm Pwllglas wedi sicrhau ei dyfodol.”

Nod y Countryside Alliance yw i roi cydnabyddiaeth i gynhyrchwyr, menterau a chymunedau gwledig y wlad. Derbynasant dros 3,500 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.