Cynhaliodd y Gwir Anrhydeddus David Jones A.S., Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, Ddiwrnod Pensiynwyr yn Eglwys Sant Pawl, Bae Colwyn, ar ddydd Gwener y 19eg o Chwefror 2016.
Cynigodd y Diwrnod gyfle i amrywiaeth o gymdeithasau, cyrff ac elusenau lleol i gynnal stondinau er mwyn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd am y gwasanaethau a gynigir a ddarperir gennynt.
Mynychodd mwy na 20 o grwpiau y digwyddiad, gan gynnwys Citizens Advice Cymru, Carers’ Outreach, Cerdded Conwy, Heddlu Gogledd Cymru, ac eraill. Darparodd Scottish Power gyngor am arbed egni, darparwyd cyngor iechyd gan y Stroke Association, a darparodd Heddlu Gogledd Cymru gyngor am ddiogelwch.
Mi ddywedodd David Jones:
‘Roeddwn yn bles iawn i gynnal Diwrnod Pensiynwyr arall, yn enwedig wedi llwyddiant y digwyddiad a gynhaliwyd llynedd.
‘Rwy’n ddiolchgar iawn i’r grwpiau a fynychodd i gynnal stondin. Ymroddasant ymdrech wych, a maent yn dod ag anryw o adnoddau a gwybodaeth bob tro. Roedd yn bleser i gael gweld wynebau cyfarwydd yn dychwelyd wedi digwyddiad llynedd, ond hefyd i gael croesawi rhai newydd.
‘Mae’n bwysig fod y cyhoedd yn ymwybodol o’r ffyrdd y gallant gael budd o’r gwasanaethau sydd ar gael, a rwy’n gobeithio cynnal digwyddiad tebyg yn Abergele yn hwyrach eleni.’
Mi ddywedodd Gina Conlan, o Citizens Advice Cymru:
‘Derbynasom lawer o ddiddordeb yn y gwasanaethau a ddarperir ganddom, a chyfeiriasom nifer sylweddol o bobl i’w canolfannau cyswllt lleol.’
Mi ddywedodd Mair Roberts, o Carers’ Outreach:
‘Roedd yn gyfle da i amlinellu y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr teluol di-dâl, a mi fyddem yn bles i fynychu eto yn y dyfodol.’