ARWAIN YR YMGYRCH GYMREIG I ADAEL YR UE
San Steffan, y 10fed o Fai 2016
Mae ‘Vote Leave’, y corff sydd wedi cael ei ddynodi fel prif arweinydd yr ymgyrch o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ar y mater, wedi datgan fod David Jones AS wedi cael ei apwyntio fel arweinydd yr ymgyrch yng Nghymru.
Mae David Jones, sy’n gyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, yn adnabyddus yn y byd gwleidyddol Cymreig. Mae ef wedi bod yn ymgyrchu yn nerthol o blaid gadael yr UE dros y misoedd diwethaf, a mi fydd yn parhau i arwain ymgyrch sy’n cynnwys nifer o Aelodau Seneddol Cymreig ac Aelodau o’r Cynulliad.
Dywedodd David Jones:
“Nid wyf yn amau fod tipyn o awydd yng Nghymru i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Yn wir, mae arolygon barn diweddar wedi dangos fod Cymru hyd yn oed yn fwy brwdfrydig o blaid gadael yr UE na nifer o rannau eraill o’r wlad.
“Gyda dim ond chwech wythnos o ymgyrchu ar ôl, mi fyddaf innau a fy nghyd-ymgyrchwyr yn cario’r neges o blaid ‘gadael’ i bob cwr o Gymru.
“Mi all Cymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, edrych ymlaen i ddyfodol cyfoethocach a mwy agored tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mae hon yn foment gyffrous i bobl Cymru.”