JONES: RED DRAGON BAN DISGRACEFUL

Posted on 5th Mai, 2016

GWARTH GWAHARDDIAD Y DDRAIG GOCH

San Steffan, y 5ed o Fai 2016

Mae David Jones AS wedi rhoi beirniadaeth hallt ar drefnwyr cystadleuaeth ganu ‘Eurovision’ am wahardd y faner Gymreig o’r stiwdio ddarlledu, er gwaetha’r ffaith fod Joe Woolford, o Ruthun, yn un o’r rhai sy’n cynrychioli’r Deyrnas Unedig yn y gystadleuaeth.

Tra’n ymddangos ar raglen deledu ‘Daily Politics’ y BBC, dywedodd David Jones fod a faner Gymreig wedi cael ei gosod yn yr un dosbarth â baner grwp terfysg Islamaidd ‘Daesh’, a baneri llefydd â statws gwleidyddol dadleuol, megis Gogledd Cyprus.

Yn ôl trefnwyr y gystadleuaeth, pwrpas y gwaharddiad yw i gadw datganiadau gwleidyddol a thramgwyddus allan o’r gystadleuaeth. Fodd bynnag, esboniodd David Jones y bydd baner yr Undeb Ewropeaidd – endid na sy’n wladwriaeth – yn cael ei harddangos. Dywedodd, yn ychwanegol: “Gan ystyried agosrwydd y refferendwm ym Mhrydain, mae’n anodd i feddwl am arwyddlun sy’n fwy gwleidyddol na baner yr UE.”

Mae David Jones wedi gosod cwestiwn ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, John Whittingdale AS, yn gofyn pa ddatganiadau mae ei Adran wedi danfon at drefnwyr y gystadleuaeth ynglyn â’r gwaharddiad.

Dywedodd David Jones:

“Mae’n warthus fod y gystadleuaeth yn gwahardd arddangosiad un o faneri cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

“Rwy’n siwr y byddai Joe Woolford yn hoff iawn o fedru gweld y Ddraig Goch yn cael ei harddangos yn Stockholm.

“Gobeithiaf y bydd y trefnwyr yn ail-ystyried y mater yn ofalus, a chaniatáu ein arwyddlun cenedlaethol i gymeryd ei lle ymysg baneri y cenhedloedd eraill sy’n cystadlu.”

Gellir darllen stori newyddion BBC ar y mater yma.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.