The Conservative Party's leadership contest

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ar wefan ‘Conservative Home’ ar y 4ydd o Orffennaf 2016. 
Oddeutu 5 o’r gloch yn y bore ar ddydd Gwener y 24ain o Fehefin, eisteddais mewn canolfan hamdden ar Lannau Dyfrdwy, gan ystyried digwyddiadau y noson flaenorol. Roedd fy nheimladau yn gymysgedd o ludded a gorfoledd. Am nifer o fisoedd o flaen llaw, mi ymgyrchais yn galed o blaid pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm. Roeddwn yn aelod o’r grwp ‘Conservatives for Britain’, yn aelod o bwyllgor cydymffurfiad ymgyrch ‘Vote Leave’, ac arweiniais yr ymgyrch ‘Gadael’ yng Nghymru.
Fodd bynnag, roedd yr ymgyrch ar ben. Roedd y BBC wedi datgan y canlyniad o blaid ‘gadael’, a roeddem wedi ennill yn glir yng Nghymru. Teimlais fy mod wedi gwneud gwaith go dda dros y chwe mis blaenorol, a roeddwn yn bles fod Prydain yn awr – ac o’r diwedd – yn paratoi i adael yr UE.
Ychydig dros dair awr yn hwyrach, datganodd y Prif Weinidog ei fod yn ymddiswyddo. Roedd hyn yn ddealladwy, a nid yn annisgwyl. Gyda un ymgyrch yn gorffen, roedd un arall yn dechrau. Symudodd y Blaid Geidwadol yn gyflym i ddechrau y broses o ethol arweinydd newydd.
Fel ymgyrchydd ‘Gadael’ balch a brwdfrydig, credaf ei fod yn bwysig iawn fy mod yn medru ymddiried yn y Prif Weinidog nesaf i wthio’r broses o adael yr UE ymlaen; wedi cymaint o ymgyrchu diwyd, nid wyf am weld y broses o adael yn cael ei hatal. Mae byd o gyfleuon y tu allan i’r UE, a rwyf am i Brydain i symud ato ac iddo cyn gynted a sy’n bosib.
Wedi dweud hynny, mae hefyd yn bwysig fod yr arweinydd nesaf yn un a fydd yn amddiffyn ac yn cynyddu lles y wlad o dan amodau heriol, gyda Prydain ailfywiogedig yn ffurfio perthnasau newydd ar draws y byd. Prin yw’r angen i ddweud taw gallu yw’r prif gymhwyster ar gyfer swydd y Prif Weinidog.
Ni gefnogodd Theresa May yr ymgyrch ‘gadael’. Fodd bynnag, rwy’n fwy na pharod i ddweud – fel ymgyrchydd ‘gadael’ brwdfrydig – fy mod yn credu taw hithau yw’r person sydd a’r cymhwysterau gorau i arwain y wlad fel ein Prif Weinidog nesaf.
Rwyf wedi cyd-weithio yn agos gyda Theresa yn y Cabinet, ac wedi cael y cyfle i weld yr amrywiaeth nerthol o dalentau sydd ganddi. Mae hi’n benderfynol, yn ddeallus, ac yn medru cadw ei phen. Mae hi’n hynod weithgar, ac yn talu sylw agos i fanylion. Ar yr un pryd, mae hi’n gwrtais a hoffus, a nid yw’n ymffrostgar. Mae hi’n wleidydd rhagorol.
Mae Theresa wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Cartref am fwy na chwe mlynedd; blynyddoedd heriol. Yn wir, dyma’r cyfnod hiraf o wasanaethu gan Ysgrifennydd Cartref am fwy na chanrif. Ers tipyn, nawr, mae’r Swyddfa Cartref wedi bod yn ‘enwog’ fel math o fynwent i uchelgais gwleidyddol. Fodd bynnag, mae Theresa wedi dangos dim ond gallu amlwg yn ystod ei hamser yno.
Yn ystod amser o gyfyngder ariannol, mae hi wedi llywyddu dros leihad mewn tor-cyfraith. Dangosodd hyder a dewrder pan gerddodd i fewn i gynhadledd flynyddol Federasiwn yr Heddlu, a datgan y dylai’r arweinwyr beidio a cheisio codi ofn ar bobl. Mae hi wedi cefnogi diwygiadau dadleuol. Nid yw’n ofni osgoi plesio unigolion a chyrff nerthol; atalodd estraddodiad Gary McKinnon, a gyhuddwyd o dor-cyfraith cyfrifiadurol, i’r Unol Dalaethau. Yn ogystal, ni orffwysodd tan alltudwyd Abu Qatada. Mae Theresa May wedi dangos ei bod yn gadarn, yn benderfynol, ac yn effeithlon.
Ar fater yr angen i ddilyn dymuniad y cyhoedd i adael yr UE cyn gynted a sy’n bosib – yn unol â chanlyniad y refferendwm – rwyf wedi derbyn sicrwydd gan Theresa ei bod yn cefnogi’r nod yma. Yn ystod y broses o adael, mi fydd angen talu sylw manwl i fanylion. Mae gan Theresa y gallu i roi sylw o’r fath, a credaf fod y gallu yma yn unigryw ymysg yr ymgyrchwyr.
Pwysleisiodd ei ymroddiad i adael yr UE yn ystod lawnsiad ei hymgyrch, trwy ddweud “Brexit means Brexit”, a thrwy ddatgan ei bwriad i sefydlu adran lywodraethol annibynnol, gyda chyfrifoldeb am y broses o adael, a gyda Ysgrifennydd Gwladol a ymgyrchodd o blaid ‘gadael’ fel arweinydd.
Fodd bynnag, nid gadael yr UE yw’r unig dasg a fydd yn aros ar gyfer ein Prif Weinidog nesaf. Mae’n sicr y bydd y wlad hon yn wynebu nifer o heriau mawrion eraill yn ystod y blynyddoedd nesaf. Pan yn dewis arweinydd cenedlaethol, nid oes lle i fentro. Dylid rhoi ystyriaeth fanwl i brofiad, i record o gyflawniadau, ac i’r gallu i wneud penderfyniadau doeth.
Ceisiwch ddychmygu pa un o’r ymgyrchwyr yr hoffech weld yn cynrychioli y Deyrnas Unedig ym mhwyllgorau mawrion y byd, gan ddelio gyda phobl megis Obama, Merkel a Putin. Yn bersonol, ni allaf feddwl am unrhyw ymgyrchydd a fyddai’n fwy addas na Theresa May. Mae ganddi’r cryfderau sy’n angenrheidiol i arwain ein gwlad allan o’r UE, ac i le a statws newydd fel gwlad gydag uchelgeisiau a diddordebau byd-eang.
Yn ogystal – a nid yn amhwysig – credaf taw Theresa May yw’r ymgeisydd a fyddai orau i uno’r Blaid Geidwadol, ac i’w harwain i fuddigoliaeth etholiadol yn 2020.
Mewn amser dirfawr o bwysig yn ein hanes, mae’n hanfodol ein bod yn dewis arweinydd a fydd yn cyflwyno y newid a ddewisiwyd gan y cyhoedd, ac eto, hefyd, yn darparu y sefydlogrwydd angenrheidiol.
Nid wyf yn amau fod Theresa May yn arweinydd o’r fath.
O’r herwydd, rwy’n falch i fedru cefnogi ei hymgyrch.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.