The change in the political landscape

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd ‘North Wales Weekly News’ ar y 27ain o Orffennaf 2016. 
Os – fel y sylwadodd Harold Wilson – fod wythnos ym gyfnod hir yn y byd gwleidyddol, mae chwech wythnos yn dragwyddol.
Yn ystod y chwech wythnos ddiwethaf, mae tirlun gwleidyddol Prydain wedi newid yn llwyr. Fel canlyniad i ymddiswyddiad David Cameron yn sgîl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, dechreuwyd ymgyrch arweiniad a ddisgwylwyd i bara naw wythnos. Fodd bynnag, wedi i’r ymgyrchwyr eraill gael eu trechu, neu ddewis gadael y gystadleuaeth, gadawyd Theresa May fel arweinydd heb wrthwynebiad, a chafodd Pydain ei hail Phrif Weinidog benywaidd.
Roedd cyflymdra y broses yn dda i’r wlad. Yn dilyn canlyniad y refferendwm, roedd angen ail-sefydlu sefydlogrwydd gwleidyddol, a ni fyddai hynny wedi bod yn bosib yn ystod cystadleuaeth arweiniad hir ac araf.
Ar ddydd Sadwrn yr 16eg o Orffennaf, tra yr oeddwn yn mynd â fy nghi am dro, derbyniais alwad ffôn oddi wrth Downing Street. Fel canlyniad i’r drafodaeth a ddilynodd, cefais fy apwyntio – yn annisgwyl – yn aelod o Lywodraeth Ei Mawrhydi, fel Gweinidog yn yr Adran i Adael yr Undeb Ewropeaidd; Adran lywodraethol newydd.
Pe tasaf wedi cael y moethusrwydd o fedru dewis swydd llywodraethol, y swydd hon fyddai’r un y buasaf wedi dewis. Mae’r Adran newydd yn gyfrifol am y trafodaethau ar fater tynnu Prydain allan o’r UE ar y telerau gorau bosib, ac am sefydlu perthynas newydd gyda’n cymdogion Ewropeaidd. Mae’n waith anodd a chymhleth, ac yn her wleidyddol enfawr.
Dechreuodd yr egwyl Seneddol dydd Iau diwethaf. Yn wreiddiol, roeddwn wedi gobeithio cymeryd gwyliau am ychydig o ddyddiau, yn dilyn chwech mis trwm iawn. Yn lle hynny, mynychais y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, Cyngor Materion Cyffredinol yr UE, a chyfarfodydd niferus â, ymysg eraill, undebau amaethyddol. Yn ogystal, ail-agorais tafarn yn fy etholaeth, a chyfarfodais â nifer o etholaethwyr gyda amryw o broblemau.
Fodd bynnag, nid wyf yn cwyno. Mae bod yn Aelod Seneddol yn un anrhydedd, a mae bod yn Weinidog llywodraethol yn anrhydedd arall. Mi fydd y misoedd sydd i ddod yn hynod bwysig a ran tynged ein gwlad. Mae’n amser cyffrous a heriol, ac edrychaf ymlaen i chwarae rhan yn y gwaith o greu Prydain newydd.
 

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.