Remembrance Sunday

Posted on 22nd November, 2017

Sul y Cofio yw’r diwrnod mwyaf difrifddwys, a gall ei ystyried fel y diwrnod pwysicaf yn y calendr cenedlaethol. Mae’n nodedig bod yr arwyddocâd y diwrnod wedi tyfu er i’r blynyddoedd mynd heibio â’r atgofion yn gwywo. Yn anffodus, mae wedi bod mwy na digon o ryfela yn y byd i sicrhau bod erchyllfa y rhyfel a’r canlyniadau dychrynllyd yn agos i gydwybod y cyhoedd.

Ar ddydd y Cadoediad, 11 Tachwedd, roedd y 99ain cylchwyl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, cymerais i’r cyfle i werthu pabi ar stondin y Royal British Legion yn Bae Colwyn. Roedd y gefnogaeth y cyhoedd yn anhygoel. Fe alwyd nifer oedd ddim yn gwisgo pabi a hefyd rhai oedd eisoes wedi prynu un i roi fwy o arian yn y bocs casgliadau.

Ar ddydd Sul y cofio ei hun, oeddwn yng nghofeb rhyfel yn Rhuthun. Dros y blynyddoedd dwi wedi dod i ddeall bod y tywydd ar achlysuron fel hyn yn oer, sych ac yn llonydd. Er hyn roedd eleni yn wahanol. Roedd y gwynt wedi codi ac yn chwifio baner y Legion Standard yn sgwâr ar ben y polyn. Roedd torf fawr wedi gwisgo’n gynnes wedi dod i gefnogi’r gwasanaeth. Ar yr ennyd y swynodd y ‘Last Post’ dechreuwyd cawod o genllysg mawr ar gefn y pennau a blygwyd gan y dorf. Yn rhyfeddol ac yn symbolaidd, pan orffennwyd y gân, arafwyd y gawod.

Yna gosodwyd y torchau. Daeth Fetrans yr Ail Ryfel Byd ymlaen a chyfarch y gofeb, wedi eu dilyn can ymladdwyr Falklands, aelodau o’r Cadet cors, Sgowtiaid ac Ambiwlans St John ynghyd a llawer mwy, i gyd yn talu teyrnged i’r dynion a’r gwragedd a gwnaed yr aberth olaf.

Blwyddyn nesaf bydd nodi canmlwyddiant ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe fydd y coffau yn arbennig o emosiynol ac mae paratoadau wedi eu dechrau yn barod. Yn briodol, fydd Sul y Cofio yn disgyn ar ddydd y Cadoediad. Does gannai ddim amheuaeth bydd y torfeydd wedi hel o amgylch ein cofebion yn fwy na welwyd erioed. Fe gall y blynyddoedd fynd heibio, ond  mae’r cof yn aros yr un peth.

 

Contact David

Write a message to David online; make an appointment to speak with him in-person, virtually or by telephone; and enquire about arranging a visit to Westminster, including tickets to watch PMQs