Ymweld â San Steffan

Mae Palas San Steffan yn lle hynod ddiddorol, ac mae’n parhau i swyno hyd yn oed y rhai sydd wedi treulio blynyddoedd yn gweithio yno. Felly nid yw’n unrhyw syndod bod ymweld â Phalas San Steffan mor boblogaidd.  

Golyga natur y gweithgareddau a gynhelir yn y Palas ei fod yn adeilad cyhoeddus i bob pwrpas, er bod ystyriaethau diogelwch a diogeledd yn golygu nad yw’r cyhoedd yn cael mynediad i bob rhan. Mae croeso i’r cyhoedd ddod i mewn i’r Palas i fynd i ddigwyddiadau y cawsant wahoddiad iddynt, a gallant gael mynediad hefyd, heb wahoddiad, i gyfarfod eu cynrychiolydd etholedig ac i wylio’r hyn sy’n digwydd yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi o’r orielau cyhoeddus.

Caiff y cyhoedd ymweld â’r Palas fel rhan o daith dywysedig hefyd. Nid yw teithiau o’r fath yn gweithredu drwy gydol yr amser, gan fod rhaid cau rhannau o lwybr y daith os yw un neu’r ddau dŷ seneddol yn cyfarfod. Yn ystod y cyfnodau y cynhelir sesiynau Seneddol, cynigir teithiau o’r fath yn ystod yr amseroedd isod:

  • Dydd Llun: 9.00am – hanner dydd
  • Dydd Mawrth: 9.00am – 10.00am
  • Dydd Mercher: 9.00am – 10.00am
  • Dydd Iau: Ni chaniateir teithiau tywysedig
  • Dydd Gwener: 3.30pm – 5.00pm

Cewch ragor o wybodaeth am pryd y bydd y Senedd yn cyfarfod a’r cyfnodau toriad yma.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn taith o gwmpas Palas San Steffan, neu ymweld â’r Senedd yn gyffredinol, mae croeso i chi wneud ymholiadau gyda’n swyddfa yn San Steffan. Mae’r manylion cysylltu perthnasol yn y dudalen Cysylltu. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan y Senedd: https://www.parliament.uk/visiting/

Bwcio taith am ddim o gwmpas San Steffan

Medrwn gynorthwyo etholwyr yn ogystal ag ysgolion a cholegau lleol a sefydliadau eraill i drefnu taith o gwmpas Palas San Steffan.

Bydd unrhyw daith sy’n cael ei bwcio trwy ein swyddfa ni am ddim.

Medrwn un ai drefnu taith dywysedig breifat i hyd at chwech o unigolion o gwmpas y Palas. Gellir gwneud y teithiau hyn yn y bore ar ddydd Llun, dydd Mawrth neu ddydd Mercher yn unig pan yw’r Senedd yn weithredol, a byddant dan arweiniad aelod o’n swyddfa. Bydd gwesteion yn cael taith lawn o gwmpas Palas San Steffan, fydd yn cymryd tua 60 i 75 munud, ac yn cynnwys gweld siambrau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, yr Ystafelloedd Gwladol yn Nhŷ’r Arglwyddi, y Cyntedd Canolog a Neuadd San Steffan.

Y dewis arall, i grwpiau mwy neu’r rhai sy’n dymuno ymweld â’r Senedd ar ddydd Gwener neu yn ystod cyfnod pan fydd y ddau Dŷ yn cymryd toriad, medrwn drefnu tocynnau ar gyfer taith ‘Y Tu Mewn i Senedd y Deyrnas Unedig’ a ddarperir gan Dîm Profiad Ymweliad y Senedd. Arweinir y teithiau hyn gan dywysydd proffesiynol ac mae’n cymryd oddeutu 75 munud. Mae’r teithiau hyn yn cynnwys siambrau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, yr Ystafelloedd Gwladol yn Nhŷ’r Arglwyddi, y Cyntedd Canolog a Neuadd San Steffan. Os hoffech wneud ymholiadau am y naill neu’r llall o’r teithiau hyn, ysgrifennwch at ein swyddfa yn San Steffan, yn nodi eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch cod post, a byddem yn hapus iawn i’ch cynorthwyo i drefnu taith. Mae’r manylion cyswllt perthnasol ar y dudalen ‘Cysylltu’.

Bwcio taith fasnachol o gwmpas San Steffan

Mae’r Palas yn croesawu teithiau masnachol hefyd yn ystod cyfnodau toriad. Mae’r rhain yn deithiau y mae’n rhaid i ymwelwyr dalu amdanynt ac ni all eich Aelod Seneddol lleol eu bwcio. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth a bwcio taith fasnachol edrychwch ar wefan y Senedd: https://www.parliament.uk/visiting/. Os ydych chi’n breswylydd yn y Deyrnas Unedig, fe’ch cynghorir i gysylltu â’ch Aelod Seneddol lleol a all drefnu taith am ddim i chi, yn hytrach na thalu am daith fasnachol.

Bwcio taith arbenigol o gwmpas San Steffan i ysgolion, colegau a darparwyr addysg eraill

Mae Gwasanaeth Addysg y Senedd yn gweithredu’r rhaglen Ymweld â’r Senedd, sy’n rhoi’r cyfle i hyd at 40,000 o fyfyrwyr y flwyddyn i ddod i Balas San Steffan. Mae’r ymweliadau wedi’u dylunio ar gyfer dysgwyr rhwng saith a 18 oed, sy’n cynnwys taith addysgiadol ac yna gweithdy a gynhelir gan staff y Gwasanaeth Addysg. Cewch ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Addysg trwy ddilyn y ddolen hon: https://learning.parliament.uk/cy/

Mae teithiau addysg yn wahanol i deithiau preifat neu deithiau masnachol, gan eu bod wedi’u dylunio i adlewyrchu’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac maen nhw’n canolbwyntio ar rôl y Senedd fel corff deddfwriaethol, yn hytrach nag ar yr adeilad ei hun. Wrth fynd o gwmpas Palas San Steffan bydd dysgwyr yn dysgu am nodweddion tair elfen y Senedd – Tŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi a’r Brenin – ac yn trafod y gwahaniaeth rhwng y Senedd a’r llywodraeth. Byddant yn dysgu am y broses o basio bil trwy’r Senedd hefyd ac yn cael y cyfle i holi cwestiynau am sut mae’r Senedd yn gweithio. 

Os hoffech wneud ymholiadau ynghylch bwcio un o’r teithiau hyn, ffoniwch y Gwasanaeth Addysg ar 020 7219 4496, os gwelwch yn dda. Yn amlwg mae’r teithiau hyn yn hynod boblogaidd, ac fe’ch cynghorir i’w bwcio ymhell ymlaen llaw. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi gael unrhyw gymorth gyda gwneud ymholiadau am y rhaglen Ymweld â’r Senedd, mae croeso i chi gysylltu â’n swyddfa yn San Steffan gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir yn y dudalen ‘Cysylltu.’ 

Bwcio tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog

Mae Aelodau Seneddol yn derbyn pedwar tocyn i sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog bob mis, y medrwn eu bwcio ar ran etholwyr. 

Wrth drefnu tocynnau ar gyfer sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog i chi, yn aml medrwn drefnu i chi gael taith breifat o gwmpas Palas San Steffan hefyd cyn y sesiwn holi cwestiynau ac yn cychwyn erbyn 9:30am.

Er mwyn bwcio tocynnau i sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog, yn ogystal â thaith o gwmpas San Steffan, ysgrifennwch at ein swyddfa yn San Steffan, os gwelwch yn dda, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y dudalen ‘Cysylltu’. Dylech nodi enw llawn pob unigolyn sy’n dymuno bod yn bresennol yn ogystal â’ch cyfeiriad a’ch cod post chi. Fodd bynnag, yn aml mae rhestr aros ar gyfer y tocynnau hyn, felly mae’n annhebygol y bydd y rhain ar gael i’w bwcio ar fyr rybudd.

Bwcio tocynnau i wylio sesiynau arferol Tŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi 

Er mwyn bwcio tocynnau ymlaen llaw i wylio’r trafodaethau o’r orielau cyhoeddus yn Nhŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi, ysgrifennwch at ein swyddfa yn San Steffan gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y dudalen ‘Cysylltu’. Dylech nodi enw llawn pob unigolyn sy’n dymuno gwylio, yn ogystal â’ch cyfeiriad a’ch cod post chi. 

Yn wahanol i sesiynau Cwestiynau’r Prif Weinidog nid oes rhestr aros i gael tocynnau i wylio’r trafodion rheolaidd yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Felly, yn aml gellir bwcio tocynnau ar fyr rybudd. 

Wrth drefnu tocynnau i wylio’r trafodaethau o’r orielau cyhoeddus, yn aml gellir trefnu taith breifat o gwmpas Palas San Steffan hefyd, a gynhelir cyn i’r Senedd ymgynnull am y diwrnod. Gellir cael gwybodaeth am amseroedd teithiau ar bob un o ddyddiau’r wythnos ar frig y dudalen hon. 

Gall y cyhoedd ddod i mewn i San Steffan ac ymweld â’r orielau cyhoeddus heb gysylltu â’u Haelod Seneddol lleol. Fodd bynnag, fe’ch cynghorir y gallech gyrraedd a chanfod nad oes tocynnau ar ôl os nad ydych chi’n bwcio tocynnau ymlaen llaw trwy eich Aelod Seneddol lleol.  Cewch ragor o wybodaeth am ymweld â’r Senedd heb drefnu ymlaen llaw yn: https://www.parliament.uk/visiting/

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.