CYFRADDAU EGNI YNG NGOGLEDD CYMRU – GWYBODAETH A CHYNGOR I’R BOBLOGAETH
Y 15fed o Ebrill 2016
Mae David Jones A.S. wedi annog pobl i ystyried newid eu cyflenwyr egni, yn dilyn cyhoeddiad ystadegau newydd sy’n dangos fod trigolion Gogledd Cymru yn talu y cyfraddau egni uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ffigurau, a gyhoeddwyd gan “MoneySupermarket”, yn awgrymu y gallai pobl arbed hyd at £379.29 bob blwyddyn – arbediad o 32.9% – a’u bod yn talu £71.62 yn fwy na thrigolion Canolbarth Dwyreiniol Lloegr, sef yr ardal sydd â’r cyfraddau isaf.
Mae’r dadansoddiad, sy’n gorchuddio 14 ardal o fewn y Deyrnas Unedig, wedi cael ei gwblhau gyda’r bwriad o hyrwyddo cystadleuaeth a hawliau defnyddwyr ar draws y sector egni trwy arddangos gor-wario ar ran defnyddwyr. Yn ôl y data, mae defnyddwyr yn gor-wario cyfanswm o £4.2 biliwn bob blwyddyn, ar gyfartaledd.
Sylwadodd David Jones:
“Syndod mawr oedd darganfod fod trigolion Gogledd Cymru yn gor-dalu am egni ar fath raddfa. Gellir arbed hyd at £379.29 bob blwyddyn trwy ystyried cyfraddau eraill; cam syml.
“Rwy’n annog defnyddwyr egni i ymchwilio a chymharu er mwyn sicrhau eu bod yn cael y fargen orau sydd ar gael iddynt. Mae nifer o gyrff sy’n arbenigo mewn darparu cyngor a gwasanaethau i bobl sydd am newid eu cyfraddau a chyflenwyr egni, ac annogaf y boblogaeth i wneud defnydd ohonynt.”