MP PRAISES FINANCIAL EDUCATION

Posted on 25th Ebrill, 2016

CANMOLIAETH AM DDARPARIAETH ADDYSG ARIANNOL

Y 25ain o Ebrill 2016

Mi ymwelodd David Jones A.S. ag Ysgol Eirias, Bae Colwyn, ar yr 22ain o Ebrill, er mwyn gweld gwaith a wneir gan ddisgyblion Chweched Dosbarth sy’n dilyn cwrs addysg ariannol a ddarparir gan Goleg Prifysgol IFS. Mi fydd y cwrs yn arwain at dystysgrif mewn astudiaethau ariannol, gyda’r bwriad o ddarparu medrau ariannol i bobl ifanc; medrau sy’n eu galluogi i fod yn gymwys ac yn hunan-ddibynnol yn y byd modern.

Siaradodd Mr. Jones â’r disgyblion, a mynychodd wers a roddwyd gan Mrs Nicky Butler.

Sylwadodd David Jones:

“Mae’r byd yn cynnig cyfleuon a heriau ariannol sy’n gynyddol bwysig, a bwriad y cwrs IFS yw darparu y medrau ariannol angenrheidiol i bobl ifanc.

“Cefais argraff dda iawn o ddealltwriaeth ariannol y disgyblion, a teimlaf y bydd y cwrs o ddefnydd mawr iddynt pan ânt i’r brifysgol, a thrwy gydol eu bywydau.

“Mae Ysgol Eirias yn haeddu clod am gynnig y cymhwyster pwysig yma i’w disgyblion, a gobeithiaf y bydd ysgolion eilradd eraill yn yr ardal hon yn dilyn ei hesiampl.”

David Jones MP visiting Eirias High School / David Jones AS yn ymweld ag Ysgol Eirias

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.