MP: NORTH WALES DISADVANTAGED BY POOR BROADBAND

Posted on 31st Ionawr, 2018

Ysgrifennodd David Jones AS i bennaeth Openreach ynglŷn â chysylltiad gwael band eang Gogledd Cymry.

Mae ystadegau llywodraethol wedi dangos fod 33 y cant o etholwyr Gorllewin Clwyd yn derbyn cyflymder band eang o dan 10 Mbps, a ystyriwyd gan Ofcom i fod yn gyflymder band eang gweddus.

Yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gwaethaf yw Llanbedr Dyffryn Clwyd a Llangynhafal, lle mae 93.8 y cant o linellau yn derbyn cyflymder band eang o dan 10 Mpbs, ac yn Efenechtyd, lle mae 27.7 y cant yn derbyn cyflymder o dan 2 Mbps.

Dywed David Jones AS:

‘Maer ystadegau yma yn siomedig iawn ac yn dangos bod nifer o’r etholaeth yn dal i fod o dan anfantais oherwydd diffyg mynedfa i band eang gweddus.

‘Am rhy hir mae pobl yng Ngogledd Cymry wedi bod yn derbyn gwasanaeth gwarthus, tra bod defnyddwyr mewn trefi a dinasoedd yn derbyn gwasanaeth cyflym iawn.

‘Dwi wedi ysgrifennu i Openreach i’w annog i wella ardaloedd sydd â band eang gwael i lefel o ‘fand eang gweddus’.’

Dyma’r llythyr a yrrwyd gan David Jones i OpenReach: 

Annwyl Mr Selley,

Mae’n chwith gennyf glywed fod 33 y cant o etholwyr Gorllewin Clwyd yn derbyn band eang â chyflymder o dan 10 Mbps.

Mae band eang wedi dod yn adnodd holl bwysig yn yr unfed ganrif ar hugain ac mae o wedi dod yn fwy anodd i fyw yn hawdd hebddo. Er yn yr amgylchiadau yma, mae’n anodd gweld sut mae fy etholwyr yn gallu byw ac ymroddi eu hunain i’r byd pan maent yn byw mewn ardaloedd heb eu cefnogi gan fand eang.

Trwy gydol fy oes fel AS, dwi wedi ymgyrchu am well hawliau i fand eang yng nghymunedau gwledig ac eisoes wedi fy nghalonogi gan gynlluniau, megis ‘Race to Infinity’ BT, i wella mynedfa i fand eang. Yn anffodus yn fy etholaeth, mae canlyniadau’r cynlluniau o’r fath yma wedi bod yn bell o ddigonol.

Ar gyfartaledd, mae cyflymder band eang yn Orllewin Clwyd yn 46 y cant yn llai na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r broblem yma’n gywilyddus yn Llanbedr Dyffryn Clwyd a Llangynhafal,  lle mae diffyg 93.8 y cant o linellau i dderbyn cyflymder of 10 Mbps, ac yn Efenechtyd lle mae 27.7 y cant yn derbyn cyflymder o dan 2 Mbps.

Cafodd 27,400 o dai yn fy etholaeth eu cysylltu i fynedfa band eang o dan Gynllun Band Eang y Llywodraeth. Er hyn, dydi cysylltu’r sefydliadau yma ddim yn ddigon; mae angen fod fy etholaeth yn gallu defnyddio’r rhwydwaith i safon Ofcom o’r cyflymder lawr lwytho argymelledig o 10 Mbps.

Am rhy hir mae pobl Gogledd Cymry wedi bod yn derbyn gwasanaeth gwarthus, tra bod defnyddwyr mewn trefi a dinasoedd yn derbyn gwasanaeth cyflym iawn.

Buaswn yn ddiolchgar o’ch gwyliadwriaeth ar y mater hwn, a gan ystyried difroldeb y sefyllfa, eich annog i wneud rhywbeth ynghylch y sefyllfa fel mater o frys.

Yn gywir,

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.