JONES WELCOMES NORTH WALES GROWTH DEAL

Posted on 16th Mawrth, 2016

CROESAWU CYTUNDEB TWF AR GYFER GOGLEDD CYMRU

Yr 16eg o Fawrth 2016

Mae David Jones AS wedi croesawu y datganiad gan y Canghellor, George Osborne AS, yn ei araith Cyllid, fod y Llywodraeth yn paratoi “cytundeb twf” newydd ar gyfer Gogledd Cymru.

Mi fyddai’r cynllun arfaethedig yn darparu ffordd i alluogi Gogledd Cymru i gael budd llawn o gynllun y “Northern Powerhouse”.

Sylwadodd David Jones, wedi’r Cyllid:

“Rwy’n bles iawn fod y Canghellor wedi cydnabod pwysigrwydd y “Northern Powerhouse” i Ogledd Cymru.

“Trafodais y mater gydag ef mewn cyfarfod mis diwethaf. Yn ogystal, cyfarfodais gyda’r Prif Weinidog pythefnos yn ôl i drafod y syniad.

“Mae’r “Northern Powerhouse” yn gyfle mawr i Ogledd Cymru, ond mae’n hanfodol fod y Llywodraeth yn cyd-weithio yn agos â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Llywodraeth Cymreig er mwyn sicrhau cynnydd.

“O’r herwydd, rwyf wedi trefnu fod y Canghellor yn cyfarfod â chynrychiolwyr y Bwrdd a finnau yn San Steffan mis nesaf. Mi fydd hyn yn gyfle i’r Bwrdd i roi ei farn i’r Canghellor ar y blaenoriaethau ar gyfer twf economaidd Gogledd Cymru.

“Am gyfnod hir – rhy hir – mae Gogledd Cymru wedi bod yn eilradd i Dde Cymru o ran datblygiad economaidd. Yn awr, mae gennym Lywodraeth sy’n cydnabod yr hyn y mae trigolion y Gogledd yn gwybod yn barod: fod Gogledd Cymru yn agos iawn i economi Gogledd Orllewin Lloegr, a fod angen polisïau datblygiad sy’n gweithio ar draws y ffin, os ydym am weld twf economaidd.

“Mae’r Cyllideb yn darparu ffordd i gynyddu ffyniant ein hardal, ac edrychaf ymlaen i gyd-weithio â chynrychiolwyr o bleidiau eraill i gynorthwyo hynny.”

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.