APWYNTIAD DAVID JONES I’R ADRAN ‘BREXIT’
San Steffan, y 19eg o Orffennaf 2016
Mae’r Prif Weinidog wedi apwyntio David Jones AS yn Weinidog mewn adran lywodraethol newydd, yr Adran i Adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae David Jones wedi bod yn Aelod Seneddol dros Orllewin Clwyd ers 11 mlynedd, ac arweiniodd yr ymgyrch ‘Vote Leave’ llwyddiannus yng Nghymru.
Sylwadodd David Jones:
“Mae’n anrhydedd i gael fy apwyntio i’r swydd hon.
“Ar y 23ain o Fehefin, pleidleisiodd pobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mi fydd gwaith yr Adran newydd yn rhan hanfodol o wireddu addewid y Llywodraeth i dynnu’r Deyrnas Unedig allan o’r Undeb Ewropeaidd.
“Rwyf wedi bod yn ymgyrchu o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ers blynyddoedd, a rwyf yn bles iawn i gael rôl mor ganolog yn y gwaith o ddarparu yr hyn a ddewisiwyd gan yr etholaeth mis diwethaf.”