Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd ‘North Wales Weekly News’ ar y 29ain o Fehefin 2016.
Hoffwn ddechrau gan ymddiheuro am y ffaith na fod yr erthygl canlynol o reidrwydd wedi cael ei ysgrifennu i’r safon yr ydych yn ei ddisgwyl; rwyf yn ei ysgrifennu ar ddydd Gwener y 24ain o Fehefin 2016, a rwyf wedi bod yn ddi-hun am dros 30 awr.
Yn gynnar y bore ‘ma, penderfynodd pobl y Deyrnas Unedig, trwy refferendwm, i adael yr Undeb Ewropeaidd. Daeth y penderfyniad ar ddiwedd ymgyrch hir. Rwy’n sicr fod pawb wedi blino, braidd, o’r ymgyrchu erbyn y diwedd, ond gellir dweud, hefyd, fod yr ymgyrch wedi golygu fod pobl yn wybodus ar y mater.
O fewn dwy awr o dderbyn y cadarnhad o’r penderfyniad, datganodd y Prif Weinidog, David Cameron, y byddai’n ymddiswyddo, er mwyn galluogi olynydd i gael ei ddewis; olynydd a fydd yn arwain trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd ar fater ymadawiad y Deyrnas Unedig.
Mae’r ansoddair “hanesyddol” yn un sy’n cael ei gam-ddefnyddio yn go aml, ond ni ellir amau y bydd digwyddiadau y 23ain a’r 24ain o Fehefin 2016 yn cael eu cofio fel un o drobwyntiau mawr hanes Prydain.
Wrth i mi i ysgrifennu, mae’r marchnadoedd arian cyfred mewn cyflwr ansefydlog. Mae hyn i’w ddisgwyl. Nid yw marchnadoedd yn hoffi ansicrwydd, ond yn raddol, gydag amser, mi ddaw pethau’n fwy sicr, a mi fydd y marchnadoedd yn tawelu.
Tra fy mod yn hapus iawn fod pobl y Deyrnas Unedig wedi arddangos yr hyder i gymeryd y penderfyniad yma, deallaf yn iawn fod heriau difrifol o’n blaen. Mae’n debygol iawn y bydd y broses o drafod gyda’r Undeb Ewropeaidd yn hir a chymhleth. Mi fydd yn bwysig i wneud trefniadau a fyddai’n cadw y perthnasau masnachol, a’r perthnasau eraill sy’n angenrheidiol, rhwng Prydain a’n cymdogion ar y cyfandir.
Yn ogystal, mi fydd angen gwella ambell i glwyf. Roedd y mwyafrif etholiadol o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn glir, ond hefyd yn fach; dylid cofio y pleidleisiodd 48% o’r etholaeth o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Yn awr, mi fydd rhaid i ninnau oll i gyd-weithio er mwyn gwella unrhyw berthnasau sydd wedi breuo fel canlyniad i’r ymgyrch. Mae’n hanfodol ein bod yn gadael ein dadleuon ar y mater yn y gorffennol, ac yn symud ymlaen er lles y wlad gyfan.