The timing of Easter

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd ‘North Wales Weekly News’ ar y 6ed o Ebrill 2016. 
Ychydig cyn y wawr ar Sul y Pasg, mi eisteddais, yn y tywyllwch dwfn, llonydd, gyda chyfarfod tawel o addolwyr yn eglwys hynafol plwyf Llansannan, yn aros i’r haul i godi uwchlaw bryniau Clwyd. Roeddem yno ar gyfer gwylnos traddodiadol y Pasg; cymundeb cyntaf diwrnod mwyaf sanctaidd y greddf Gristnogol. Roedd yn brofiad teimladwy a chofiadwy.
Gellir dweud taw’r Pasg yw hoff wyl y boblogaeth – crefyddol neu beidio – gan ei fod yn digwydd ar ddiwedd y gaeaf, ac ar ddechrau cyfnod cynhesach a goleuach y flwyddyn. Mae’n amser i orffwys, a hefyd – efallai – i ystyried yn dawel. Eleni, fodd bynnag, mae gwleidyddiaeth – o fath go fwyn – wedi cael ei gyflwyno i’r wyl. Mae Archesgob Caergaint wedi datgan ei fod am ddechrau trafodaethau gyda arweinwyr Cristnogol eraill, gyda’r bwriad o sefydlogi amseriad y Pasg. Yn bresennol, Sul y Pasg yw’r dydd Sul sy’n dilyn y lleuad lawn gyntaf wedi cyhydnos y gwanwyn. Fel canlyniad, gall ddod cyn gynted â’r 22ain o Fawrth, a chyn hwyred â’r 25ain o Ebrill.
Mi fyddai sefydlogi dyddiad y Pasg yn cyflwyno nifer o fanteision, yn enwedig i fusnesau a’r rheini sy’n trefnu amserlenoedd ysgolion. Mae pobl wedi bod yn ymwybodol o’r manteision hynny ers blynyddoedd. Yn wir, cyn gynhared â 1928, cyflwynodd y Senedd Ddeddf y Pasg. Yn ôl y Ddeddf, Sul y Pasg fyddai’r dydd Sul sy’n dilyn ail ddydd Sadwrn mis Ebrill, gan sicrhau y byddai’r Pasg yn digwydd rhwng y 9fed a’r 15fed o Ebrill.
Fodd bynnag, yn debyg i’r broses o ddiwygio Ty’r Arglwyddi, mae newid dyddiad y Pasg wedi bod yn broses hir. Nid yw’r Gorchymyn Deddfwriaethol a fyddai’n angenrheidiol i roi effaith i’r Ddeddf wedi cael ei gyflwyno. Mae’r Archesgob wedi dweud y dylai’r trafodaethau gyda’i gyd-arweinwyr gael eu cwblhau o fewn deng mlynedd, ac yna, mi fydd amseriad y Pasg yn cael ei sefydlogi. Fodd bynnag, nid wyf yn sicir a fydd hynny’n digwydd.
Yn ogystal, mae llawer i’w ddweud o blaid Pasg sy’n dilyn patrymau amrywiol natur ac amddangosiad y Lleuad. Os yw’r Pasg yn golygu unrhywbeth, mae’n golygu bywyd a golau. Beth, yn ein cenhedlaeth ni, sy’n peri i ni i herio doethineb sefydledig ein cyndeidiau?

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.