The 2016 Budget

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd “North Wales Weekly News” ar y 23ain o Fawrth 2016.
Roedd Cyllideb 2016, a gyhoeddwyd dydd Mercher diwethaf, yn nodedig am y ffaith ei bod yn cynnwys mesur cyllidol sy’n dra anarferol: treth a fydd yn cael ei chroesawu. Datganodd y Canghellor ei fod am gyflwyno treth ar y siwgr a ychwanegir i ddiodydd meddal. Ymateb Jamie Oliver, y cogydd enwog, un sydd wedi bod yn ymgyrchu dros dreth o’r fath, oedd i ddawnsio o flaen y camerau ar dir College Green, ger Balas San Steffan.
Mi fydd dathliad Jamie Oliver yn cael ei ail-adrodd ar draws y wlad, oherwydd mae iechyd y boblogaeth yn cael ei ddifetha gan or-fwyta siwgr. Mae gor-fwyta o’r fath yn arwain at or-dewdra, pydredd dannedd, clefyd y siwgr, a chanser, a mae’n rhoi straen enfawr ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae rhai tuniau o ddiodydd meddal yn cynnwys cymaint a 13 llwy de o siwgr. Rydym wedi bod yn gwenwyno ein hunain ers degawdau.
Mi fydd dwy flynedd gan wneuthurwyr diodydd meddal i leihau cynnwys siwgr eu cynnyrch. Ar ôl hynny, mi fydd rhaid iddynt dalu’r dreth siwgr. Mi fydd yr arian a godir yn cael ei gyfeirio at chwaraeon mewn ysgolion. O’r herwydd, mi ddaw budd dwbl o’r dreth. Mi ddylem godi gwydr o ddwr pefriol i Jamie a George.
O safbwynt lleol, rwy’n croesawu’r datganiad am Gytundeb Twf i Ogledd Cymru yn fawr. Fel yr ysgrifenais rai wythnosau yn ôl, mae’n hanfodol fod Gogledd Cymru yn cael ei gysylltu â datblygiad y “Northern Powerhouse”, er mwyn sicrhau na fod datblygiad yr ardal yn cael ei rwystro. Mi esboniais hyn i’r Canghellor a’r Prif Weinidog yn ystod cyfarfodydd diweddar, a mae’r datganiad yn dangos eu bod wedi gwrando a deall.
Mi fydd y Cytundeb Twf yn galw am ymroddiad o lywodraeth ar bob lefel. Mis nesaf, mi fyddaf yn mynychu cyfarfod gyda’r Canghellor yn Downing Street, ynghyd â dirprwyaeth o aelodau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a Dyfrdwy, er mwyn trafod y cam cyntaf.
Yn ogystal, mae’n bwysig fod y Llywodraeth Cymreig yn chwarae rhan frwdfrydig yn y broses. Mi ddylai’r llywodraeth yng Nghaerdydd gydnabod fod De Cymru wedi cael budd fel canlyniad i gefnogaeth gref o San Steffan dros y blynyddoedd diweddar. Yn awr, mae tro Gogledd Cymru wedi dod.
 

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.