Reasons in favour of leaving the European Union

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd ‘Denbighshire Free Press’ ar y 15fed o Fehefin 2016. 
Mae’r ymgyrch wedi bod yn un hir, ond yn awr, mae’r terfyn mewn golwg. Ar y 23ain o Fehefin – os nad ydych wedi pleidleisio yn barod, trwy’r post – mi gewch leisio eich barn ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae aelodaeth o’r UE yn bwnc cymhleth. Rwy’n fwy na pharod i gydnabod na fod gan yr ymgyrch ‘gadael’, na’r ymgyrch ‘aros’, berchenogaeth gyflawn ar ddoethineb. Mae dadleuon parchus i’w lleisio ar ddwy ochr yr ymgyrch, a mae gwneud penderfyniad yn fater o bwyso a mesur y dadleuon hynny. Credaf, fod bynnag, y byddai’r Deyrnas Unedig yn cael lles a budd o fod tu allan i’r UE, ac o’r herwydd, rwyf eisoes wedi pleidleisio i adael.
Tra’n ystyried sut i bleidleisio, efallai y dylech ystyried y pwyntiau canlynol; pwyntiau sydd, yn fy marn i, yn darparu rhesymau nerthol o blaid gadael.
Mae aelodaeth o’r UE yn gostus. Mae’n costio £19.1 biliwn y flwyddyn i ni i fod yn aelod. Derbynir peth o’r arian yma yn ôl trwy ad-daliad, a pheth trwy daliadau uniongyrchol (ar yr amod ein bod yn gwario’r arian yn unol â gorchmynion Brwsel; ni allwn ei wario yn unol â’n dymuniadau). Er hyn, mae aelodaeth yn costio £10 biliwn net y flwyddyn; cedwir y gweddill gan Frwsel, sy’n ei wario ar brosiectau mewn rhannau eraill o’r UE. Awgrymaf y buasai llawer gwell pe tasem yn medru cadw’r £19.1 biliwn, a’i wario fel y dymunwn, ar ein blaenoriaethau. Dywedir yn aml, gan rai sydd am i Brydain i aros yn yr UE, fod Cymru yn cael budd mawr o arian o’r UE. Fodd bynnag, fel y dangosir yn glir gan y ffigurau uchod, nid arian Ewropeaidd ydyw. Ein harian ni yw’r arian hynny; danfonir arian i Frwsel, cedwir rhan ohono yno, a dychwelir ychydig i’r wlad hon. Pe tasem tu allan i’r UE, gallem wario llawer mwy ar flaenoriaethau Cymreig, megis y GIG ac amaethyddiaeth.
Mae’r UE yn methu, o safbwynt economaidd. Mae’r Ewro yn arian cyfred hynod ansefydlog. Mae gwlad Groeg yn anhyfyw, mewn gwirionedd, a mae ei dyledion yn golygu bygythiad o ansefydlogrwydd ariannol ar draws yr UE, yn enwedig yn yr Eidal, Sbaen a Portugal. Mae cyfraddau diweithdra yn uchel, ac yn styfnig. Mae’r broblem o ddiweithdra yn arbennig o ddifrifol ymysg yr ifanc, gyda chyfraddau o dros 48% yng Ngwlad Groeg a Sbaen, a 38% yn yr Eidal. Mae twf economaidd yn yr UE yn araf iawn, a thipyn yn is na chyfraddau twf economiau datblygedig eraill. Mae’r Unol Daleithiau, Tseina, India, a gwledydd de-ddwyrain Asia yn tyfu’n gynt. Mae angen i ni i ffurfio cytundebau masnach gyda’r economiau bywiog yma, ond nid yw hynny’n bosib o herwydd fod angen cynnal trafodaethau trwy gyfrwng yr UE; proses sy’n hynod araf. Tu allan i’r UE, gyda sedd ein hunain yng Nghyfundrefn Masnach y Byd, gallem ffurfio cytundebau treth newydd, gan helpu ein economi i dyfu’n gyflymach. Gallem hefyd barhau i fasnachu gyda gwledydd yr UE, fel aelod o’r ardal fasnach rydd sy’n estyn o Wlad yr Iâ i Dwrci.
Ni fedrwn reoli mewnfudiad tra ein bod yn aelod o’r UE. Yn bresennol, gall unrhyw ddinesydd o’r UE sy’n dweud ei fod yn edrych am waith ddod yma i fyw, heb ystyriaeth am sgiliau unigol. Yn 2015, mewnfudodd 333,000 (net) i’r wlad hon. Nid yw mewnfudiad ar fath raddfa yn gynaliadwy. Mae’n cynyddu diweithdra o fewn y boblogaeth Brydeinig, yn gwthio cyflogau yn is, ac yn cynyddu costau llety. Mae hefyd yn gosod straen ar wasanaethau cyhoeddus, megis iechyd ac addysg. Mae angen rhywfaint o fewnfudiad arnom, yn sicir, ond mae hefyd angen rheolaeth dros bwy sy’n dod yma i fyw. Mi fyddai system mewnfudiad o’r math a ddefnyddir yn Awstralia yn galluogi i ni i groesawu y bobl sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygiad ein economi ac ar gyfer rhedeg ein gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, dim ond trwy adael yr UE y gallem gyflwyno system o’r fath.
Mae llywodraeth yr UE yn arbennig o hoff o reoliadau, a mae llawer o’r rhai a gyflwynir yn rai di-angen. Dim ond oddeutu 13% o fusnesau Prydeinig sy’n allforio o fewn yr UE, ond mae pob un ohonynt yn gorfod cydymffurfio â rheoliadau Ewropeaidd beichus. Mae hyn yn amharu ar eu gallu i gynhyrchu elw. Tu allan i’r UE, gallem gyflwyno rheoliadau mewn modd mwy synhwyrol a chymesur, gan leihau beichiau di-angen ar fusnesau Prydeinig, a’u galluogi i dyfu’n gynt, ac i greu mwy o swyddi.
Yn bwysicaf oll, nid yw’r Undeb Ewropeaidd yn ddemocrataidd. Yn bresennol, mae oddeutu 60% o’r ddeddfwriaeth o fewn y Deyrnas Unedig yn deillio o’r UE. Dechreuir deddfwriaeth yr UE gan y Comisiwn Ewropeaidd; corff sy’n apwyntiedig, yn hytrach nac etholedig, a na sy’n atebol i etholaethwyr. Yn y wlad hon, os nad ydych yn hoff o’r ffordd y mae’r llywodraeth yn llywodraethu, gallwch ei ddiswyddo yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Fodd bynnag, ni allwch ddiswyddo Comisiynydd, er gwaethaf eich barn ar ei waith neu’i gwaith. Mae’r UE yn fiwrocrataidd ac annemocrataidd. Nid wyf innau, am un, am fyw o dan system o’r fath. Collodd cenedlaethau blaenorol eu gwaed er lles democratiaeth seneddol yn y wlad hon; ni ddylem fod yn ddi-ofal gyda’n treftadaeth gwleidyddol.
Awgrymaf fod yn uchod yn resymau da i bleidleisio o blaid gadael yr UE ar y 23ain o Fehefin. Os gwnawn hynny, mi fyddwn yn fwy cyfoethog, mi fyddwn â mwy o allu i reoli ein ffiniau, a mi fyddwn yn medru ail-gydio yn y democratiaeth a gollwyd fel canlyniad i aelodaeth o’r UE. Fel gwlad, mi fydd ganddom ddyfodol mwy disglair; dyfodol o’r fath yr hoffem ei adael ar gyfer ein plant a’n wyron.
 

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.