Railways and North Wales

Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd ‘North Wales Weekly News’ ar yr 20fed o Ebrill 2016.
Roeddwn yn bles iawn i fedru cynnal derbyniad yn Nhy’r Cyffredin ar gyfer ‘Virgin Trains’ yn ddiweddar. Mynychwyd y derbyniad gan nifer o Aelodau Seneddol o wahanol ardaloedd, gan gynnwys Gogledd Cymru.
Mae teithio ar y rheilffyrdd yn adfywio’n nerthol ar y foment. Yn 2014-15, cwblhawyd 1.654 biliwn o deithiau teithwyr ar reilffyrdd Prydain Fawr – y rhif uchaf sydd ar gofnod. Mae gwasanaeth arfordir gorllewinol Virgin yn rhan bwysig o’r adfywiad; oes newydd y tren.
Mae gan y Llywodraeth gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y rheilffyrdd. Mae’r Mesur (a fydd yn Ddeddf) sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer y cynllun ‘High Speed 2’ (HS2) wedi cwblhau ei daith trwy Dy’r Cyffredin, a mae ystyriaeth yn cael ei roi i’r cynllun ‘HS3’; llinell a fyddai’n cysylltu dinasoedd mawrion Gogledd Lloegr.
Wrth gwrs, mae cysylltiadau rheilffordd yn bwysig iawn i ninnau yma yng Ngogledd Cymru. Mae’r llinell rhwng Crewe a Chaergybi yn cael defnydd trwm, and mae hefyd yn amlwg fod ansawdd y llinell yn is na’r brif linell rhwng Llundain a Glasgow. Rwy’n teithio ar hyd y llinell bob wythnos, a rwy’n ymwybodol fod 60 milltir olaf y daith rhwng San Steffan a Bae Colwyn dipyn yn arafach na’r rhan gyntaf. O’r herwydd, mae gwella’r llinell yn hanfodol, er mwyn sicrhau na fydd Gogledd Cymru yn ymdroi yn sgîl gweddill y wlad.
Gyda hynny mewn golwg, rwyf wedi trefnu cyfarfod rhyngddof innau a dirprwyaeth o arweinwyr busnes a llywodraeth lleol ar un ochr, a Changhellor y Trysorlys ar yr ochr arall, i drafod y mater. Mae’n hanfodol, pan fydd y ganolfan HS2 yn Crewe yn cael ei chynllunio, y bydd paratoadau ar gyfer cysylltiad rheilffordd drydan o Crewe i Gaergybi yn cael eu gwneud. Mi fydd y cyfarfod, sy’n debygol o bara awr gyfan, yn galluogi’r Canghellor i glywed – yn uniongyrchol – blaenoriaethau trigolion Gogledd Cymru ar fater yr ased bwysig yma.
Nid yw pob person a fydd yn mynychu’r cyfarfod yn cynrychioli plaid wleidyddol, a mae’r rheini sydd yn cynrychioli pleidiau yn dod o bob plaid. Mae’r mater yma yn un sy’n uno pobl o bob ‘lliw’ gwleidyddol, ac os ydym am weld cynnydd, mae’n hanfodol ein bod yn ymroi ein hunain i’r fenter mewn ffordd sy’n adlewyrchu meddylfryd un tîm unedig.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.