Parking charges on the Colwyn Bay promenade

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd ‘North Wales Weekly News’ ar y 1af o Fehefin 2016.
Un o ddatblygiadau mwyaf dymunol yr ardal leol dros y blynyddoedd diweddar yw gwelliant cynyddol glan y môr Bae Colwyn.
Mae’n wir fod golygfa ogoneddus un o faeau gorau’r wlad yn cael ei hagru gan weddillion ymwthiol Pier Victoria (fel yr ysgrifenais yn ddiweddar), ond wrth ystyried yr elfennau eraill, mae pethau yn edrych yn well. Mae’r traeth newydd, o osodwyd ychydig flynyddoedd yn ôl, yn atyniad mawr i deuluoedd yn ystod misoedd yr haf. Mae Porth Eirias, a fu’n wag am flynyddoedd, yn awr yn gartref i fistro newydd Bryn Williams. Tra fy mod yn ysgrifennu’r darn yma, mae’r hen gledres rydlyd  ar lan y môr yn cael ei thynnu ymaith, a mae cledres newydd a thaclus yn cael ei gosod yn ei lle. Mae Bae Colwyn yn cael ei hadnewyddu, y dylid rhoi clod i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol am ei waith.
Mae pentref Rhos, sef unig ran cytref Conwy lle mae’r dref yn cyfarfod â’r môr, yn gynyddol ddeniadol. Yn wir, mae’n ffynnu, gyda siopau a chaffiau prysur. Mae unedau manwerthu gwag yn brin.
Wyth mlynedd wedi’r dirwasgiad, mi ddylem oll groesawu dadeni’r dref, a mi fyddai’n drueni mawr pe gwnaed rhywbeth i amharu ar yr adfywiogiad.
Fodd bynnag, mae yna un cwmwl tywyll ar y gorwel. Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi datgan ei fod yn ystyried cyflwyno tollau parcio ar y promenâd. Yn hollol ddealladwy, mae Cyngor Tref Bae Colwyn wedi lleisio pryder am y cynllun. Mae’r Cyngor Tref yn dadlau – yn gwbl rhesymol – y byddai’r mesur yn niweidio iechyd a lles y boblogaeth leol; mae nifer fawr ohonynt yn ymweld â’r traeth yn rheolaidd er mwyn mwynhau awyr iach ac ymarfer corff.
Yn ogystal, mi fyddai tollau parcio ar y promenâd yn effeithio yn negyddol ar fusnesau, yn enwedig yng nghyfeiriad Rhos. Mi fyddent hefyd yn amharu ar strydoedd preswyl yn yr ardal, wrth i ymwelwyr barcio yno er mwyn osgoi talu’r tollau.
Dylid osgoi pethau o’r fath. Os yw Bae Colwyn am barhau ei welliant, ni ddylid cyflwyno treth ar yr ymwelwyr sy’n dod â ffyniant o’r newydd i’r dref.
 

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.