Five reasons for leaving the European Union

Cyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn wreiddiol, ac yn Saesneg, ym mhapur newydd ‘North Wales Weekly News’ ar y 15fed o Fehefin 2016.
Cynhelir y refferendwm ar ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd ar y 23ain o Fehefin. Dyma bum rheswm da pam y byddai Prydain yn cael budd o adael yr UE.
Mae’r UE yn gostus. Costir ein haelodaeth £19.1 biliwn y flwyddyn. Derbynir peth o’r arian yma yn ôl trwy ad-daliad, a pheth trwy daliadau uniongyrchol (ar yr amod ein bod yn gwario’r arian yn unol â gorchmynion Brwsel). Er hyn, mae aelodaeth yn costio £10 biliwn net y flwyddyn. Mi fyddai’n lawer gwell pe tasem yn medru cadw’r £19.1 biliwn, a’i wario fel y dymunwn. Gyda llaw, peidiwch â chredu’r ddadl fod Cymru yn cael budd mawr o arian o’r UE. Ein harian ni yw’r arian hynny; danfonir arian i Frwsel, cedwir rhan ohono yno, a dychwelir ychydig ohono i’r wlad hon. Pe tasem tu allan i’r UE, gallem wario llawer mwy ar flaenoriaethau megis y GIG.
Mae’r UE yn methu, o safbwynt economaidd. Mae economiau y cyfandir yn dioddef cyfraddau diweithdra uchel, yn enwedig ymysg yr ifanc. Mi fydd gan ieuenctid Prydain ddyfodol gwell mewn Prydain sy’n annibynnol.
Tu allan yr UE, gallem ffurfio cytundebau masnach newydd gyda economiau bywiog megis Tseina, India, a’r Unol Daleithiau. Yn bresennol, ni allwn ffurfio cytundebau o’r fath oherwydd fod rhaid trafod drwy’r UE; proses sy’n hynod araf. Gallem barhau i fasnachu gyda gwledydd yr UE, trwy gyfrwng aelodaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.
Ni fedrwn reoli mewnfudiad tra ein bod yn aelod o’r UE. Yn bresennol, gall unrhyw ddinesydd o’r UE sy’n dweud ei fod yn edrych am waith ddod yma i fyw. Mae hyn yn cynyddu diweithdra o fewn y boblogaeth Brydeinig, yn gwthio cyflogau yn is, ac yn gwthio costau llety yn uwch. Mae angen rhywfaint o fewnfudiad arnom, ond mae hefyd angen rheolaeth dros bwy sy’n dod yma i fyw.
Yn bwysicaf oll, wedi i ni i adael yr UE, mi fyddai’r Deyrnas Unedig yn ddemocrataidd unwaith eto. Yn bresennol, dechreuir deddfwriaeth yr UE gan gomisiynwyr anetholedig na sy’n atebol i ninnau. Ni allwn bleidleisio i’w diswyddo, er gwaethaf ein barn am eu gwaith.
Wedi’r 23ain o Fehefin, ac os pleidleisiwn i adael yr UE, mi fydd Prydain yn wlad ryddach, cyfoethocach, a mwy democrataidd. Na fyddech eisiau gwlad o’r fath ar gyfer eich plant a’ch wyron?

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.