Dementia Friendly

Posted on 6th Rhagfyr, 2017

Dydd Gwener ddiwethaf ymwelais ag archfarchnad Tesco yn Abergele – ddim i wneud fy siopa Nadolig, ond i weld blaengaredd pwysig newydd i gefnogi’r nifer fawr o bobol o bob oedran sydd yn byw hefo dementia.

Y Gymdeithas Alzheimer yw elusen flaenllaw’r D.U. am gymorth ac ymchwil i bobol gyda dementia, eu teuluoedd a’u gwarchodwyr. Rhan o’r gwaith pwysig yw creu amgylchedd sydd yn groesadwy i bobol sydd yn byw hefo dementia, gan fod dim ond 47% ohonynt yn teimlo’n rhan o’i amgylchedd. Yn Tesco, ges i gyfarfod Lucie Williams, sydd yn gweithio gyda’r Gymdeithas fel Ysgrifenyddes o’r Abergele Dementia Friendly Group, ynglŷn â Jan Williams, pencampwraig cymdeithas egnïol Tesco. Cefais weld y sgrin talu newydd yn yr archfarchnad sydd wedi ei arwyddo yn “dementia friendly”.

Mae pobol sydd yn dioddef o ddementia angen amser ac amynedd, ac mae’n bwysig eu bod ddim yn teimlo o dan bwysau nac yn cal eu drysu. Felly mae arwyddion ar gyfyl sgrîn talu 12 yn gofyn i gwsmeriaid i adel seibiant rhyngddyn nhw a’r cwsmer o’u blaenau, i adel digon o le i gwblhau eu siopa.

Mae’r mân talu yn arddangos posteri gyda’r ceiniogau a nodiadau sydd mewn cylchrediad ar hyn o bryd i fod o gymorth i siopwyr i wyrio eu harian cyn talu. Hefyd mae taflenni ar gael i helpu pobol sydd ddim yn dioddef o glefyd Alzheimer i godi eu dealltwriaeth o glefyd sy’n fwy niferus na be fyddai rhywun yn ei ddisgwyl.

Dywedodd Jan Williams mae blaengaredd Abergele yw’r cyntaf o’r math yma ar hyd arfordir Gogledd Cymry, ac mae wedi ei anelu at gynorthwyo’r dref i ddatblygu i fod yn gymdeithas gyfeillgar i ddioddefwyr dementia. Hefyd dywedodd Jan Williams bod gweithwyr newydd Tesco yn derbyn hyfforddiant i fod yn fwy ymwybodol o ddementia. Mae llawer o’r gweithwyr yn gwisgo bathodyn “Dementia Friend” ac mae annog i bobl sydd yn dioddef o ddementia i siarad gyda nhw.

Mae hwn yn flaengaredd ardderchog gan Tesco a Chymdeithas Alzheimer ac mae angen canmol y ddau ohonynt. Does dim amheuaeth y gall dementia cael effaith trychinebus ar y cleifion ond hefyd eu teulu ynghyd; ond hefo mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus a chymorth cymdeithasol, gall ei effaith cael ei leihau. Dwi’n gobeithio y bydd llawer mwy o siopau yn dilyn esiampl Tesco.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.