Bywgraffiad David

Ganed David yn Llundain, wedi i’w rieni symud yno o Ogledd Cymru oherwydd gyrfa ei dad. Dychwelodd y teulu i Ogledd Cymru yn gynnar yn ystod plentyndod David, a threuliodd fwyafrif ei oes yn byw ac yn gweithio yn yr ardal. Aeth i Ysgol Ramadeg Rhiwabon ac yna bu’n astudio’r gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Choleg y Gyfraith yng Nghaer. 

Ar ôl gorffen ei astudiaethau academaidd, symudodd i Rhuthun i hyfforddi fel cyfreithiwr. Wedi iddo gymhwyso, sefydlodd ei swyddfa ei hun yn Llandudno.

Gwnaeth David ddatblygu diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn ifanc, ynghyd ag ymrwymiad i’r blaid Geidwadol. Roedd yn ymgeisydd Seneddol yn Etholiadau Cyffredinol 1997 a 2001, a gwasanaethodd am gyfnod byr fel aelod rhanbarthol yng Nghynulliad Cymru.   

Dewiswyd David fel ymgeisydd y Blaid Geidwadol yng Ngorllewin Clwyd yn Etholiad Cyffredinol 2005. Dyma’r tro cyntaf iddo ymgeisio am y sedd, a llwyddodd i’w hennill gyda mwyafrif o 133. 

Pan ddaeth yn Aelod Seneddol daeth David yn rhan o’r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig, a gwasanaethodd fel aelod o’r pwyllgor hwnnw trwy gydol Senedd 2005-10. Cafodd ei benodi yn Weinidog yr Wrthblaid dros Gymru, gan ddod yn aelod o fainc flaen yr wrthblaid. Parhaodd yn y swydd honno am weddill cyfnod Senedd 2005-10.

Ailetholwyd David fel Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd yn Etholiad Cyffredinol 2010, gan gynyddu ei fwyafrif i 6,419. Roedd hyn yn cynrychioli gogwydd o  8.4% o’i blaid, a oedd yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol Ceidwadol yn yr etholiad hwnnw. Pan ffurfiwyd y Llywodraeth Glymblaid ym mis Mai 2010 cafodd ei benodi yn Is-ysgrifennydd Seneddol Gwladol Cymru. Bu yn y swydd honno tan fis Medi 2012, pan gafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a dod yn aelod o’r Cabinet a’r Cyfrin Gyngor, a bod yn gyfrifol am Swyddfa Cymru. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Gwladol am bron i ddwy flynedd, tan fis Gorffennaf 2014.

Ailetholwyd David fel Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd yn Etholiad Cyffredinol mis Mai 2015, gyda’i fwyafrif wedi cynyddu i 6,730.

Yn 2016 penodwyd David yn Weinidog Gwladol i’r Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd dan lywodraeth Theresa May. Ailetholwyd David yn Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd yn Etholiad Cyffredinol mis Mehefin 2017, gan gynyddu cyfran ei bleidleisiau i 48.1%. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno daeth yn aelod o’r Pwyllgor Craffu Ewropeaidd. Yn dilyn ad-drefnu’r Cabinet gan Theresa May dychwelodd David i’r meinciau cefn ac adfer ei le yn y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol.

Yn Etholiad Cyffredinol mis Rhagfyr 2019 ailetholwyd David fel Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd unwaith eto, gan gynyddu ei gyfran o’r pleidleisiau i 50.7%. Ailymunodd â’r Pwyllgor Craffu Ewropeaidd a’r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol ym mis Mawrth 2020.

Mae gan David ddiddordeb yn y Dwyrain Canol ers blynyddoedd ac fe’i benodwyd yn Gadeirydd y Cyngor Dealltwriaeth rhwng Arabia a Phrydain yn 2017. Mae hefyd yn Gadeirydd Anrhydeddus y Gymdeithas Emiradau, cylch cyfeillgarwch sydd wedi ymrwymo i gryfhau’r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Emiradau Arabaidd Unedig. Mae David yn aelod o wyth Grŵp Seneddol trawsbleidiol, pump ohonynt yn canolbwyntio ar ranbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys: Y Byd Arabaidd (Cadeirydd), Bahrain, Jordan (Cadeirydd), Libya (Cadeirydd), Yr Emiradau Arabaidd Unedig (Cadeirydd), Merswy Dyfrdwy Gogledd Cymru, Defnyddio e-sigarets a Sŵau ac Acwariymau.   Mae David yn briod â Sara, a gafodd ei magu yn Sir Drefaldwyn. Mae ganddyn nhw ddau fab, ac maen nhw’n byw yn Llandrillo yn Rhos.

Cysylltu gyda David

Ysgrifennwch neges at David ar-lein; gwnewch apwyntiad i siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn rhithiol neu ar y ffôn a gwneud ymholiadau ynghylch ymweld â San Steffan, yn cynnwys tocynnau i wylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.