Mae Aelodau Seneddol yn aml yn derbyn nifer fawr o e-bostiau tebyg neu union-debyg at fater neu faterion polisi penodol. Fel rheol, mae'n well gan David i ateb gohebiaeth oddi wrth etholaethwyr yn uniongyrchol ac unigol. Fodd bynnag, nid yw hynny'n bosib ym mhob achos. O'r herwydd, mae'r dudalen hon yn darparu ffordd hawdd a chyflym i gyhoeddi ac i ddarllen atebion a datganiadau ar faterion polisi penodol.
Yn Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 2019, ail-etholwyd David fel yr Aelod Seneddol dros Orllewin Clwyd, gyda chynnydd yn ei gyfran o’r bleidlais i 50.7%.