Fel etholaeth Seneddol, mae Gorllewin Clwyd yn weddol newydd; crewyd y sedd cyn Etholiad Cyffredinol 1997, drwy uno dwy etholaeth hynach, De Orllewin Clwyd a Gogledd Orllewin Clwyd. Yn draddodiadol, roedd ardal yr etholaeth newydd yn tueddi i gefnogi ymgeiswyr Ceidwadol. Fodd bynnag, yn etholiad 1997, dychwelwyd ymgeisydd o’r Blaid Lafur, Gareth Thomas, a dychwelwyd yr un ymgeisydd yn yr etholiad nesaf yn 2001.
Yn Etholiad Cyffredinol 2005, enillodd David Jones y sedd gyda mwyafrif o 133. Cadwodd David y sedd yn Etholiad Cyffredinol 2010, gan gynyddu ei fwyafrif i 6,419. Roedd cynnydd o’r fath yn cynrychioli newid etholiadol o 8.4% o’i blaid; yn uwch na’r cyfartaledd Ceidwadol cenedlaethol yn yr etholiad hynny. Cadwodd David y sedd am yr ail dro yn Etholiad Cyffredinol 2015, gan drechu yr ymgeisydd Llafur gyda tipyn o bellter rhifol. Cynyddodd David ei fwyafrif i 6,730, gyda mwy o bleidleisiau o’i blaid, a chyfran uwch o’r bleidlais boblogaidd. Yn Etholiad Cyffredinol 2017, ennillodd David y sedd am y pedwerydd tro, gyda chynnydd o bron i 5 7 cant yn ei gyfran o’r bleidlais.
Mae Gorllewin Clwyd hefyd yn etholaeth yn y Cynulliad Cymreig. Cynrychiolir hi gan Aelod Ceidwadol, Darren Millar AC.
Yn Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 2019, ail-etholwyd David fel yr Aelod Seneddol dros Orllewin Clwyd, gyda chynnydd yn ei gyfran o’r bleidlais i 50.7%.