Rwy’n falch i gael yr anrhydedd o gynrychioli Gorllewin Clwyd yn Nhŷ’r Cyffredin. Edrychaf ymlaen i barhau i wasanaethu yr etholaeth a’i phobl dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Mae David wedi cynrychioli Gorllewin Clwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ers 2005.
Mae ef wedi treulio mwyafrif ei fywyd yn byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Ymarferodd fel cyfreithiwr am nifer o ddegawdau, gan gynnwys cyfnod yn rhedeg practis ei hun, cyn cael ei ethol i’r Senedd yn Etholiad Cyffredinol 2005. Ers hynny, mae David wedi cael ei ail-ethol fel yr Aelod Seneddol dros Orllewin Clwyd am y pumed tro.